Dywed y bardd fod y sefyllfa drist a fodolai yn peri loes iddo ef a'i deulu.
Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.
Pwrpas y Gymdeithas ar y pryd oedd hyrwyddo crefydd rydd a rhyddid crefyddol yng Nghymru yng ngwyneb yr erledigaeth a fodolai o gyfeiriad yr enwadau iawnffyddol.
Cwmni Dr Helen Roberts, Y Felinheli, a gawsom ym mis Chwefror, ac yn ei ffordd naturiol aeth â ni yn ôl genedlaethau i ddisgrifio'r afiechydon a fodolai, gan olrhain y cynnydd a fu dros y blynyddoedd i'w trechu.
Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.