Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

foel

foel

Llygadog neu beidio, nid yw mynegi'r gweld yn foel yn ddim ond disgrifiad: ac nid yw disgrifiad yn farddoniaeth.

Drwy gyfrwng y dechnoleg lanwaith hon, mae muriau'r geudai yn cael eu cadw'n foel a diaddurn - ac anniddorol.

Bydd y cynllun hwn yn cael gwared o'r gornel lle mae'r ffyrdd yn troi am Foel Famau a Chilcain a bydd yn bosibl gweld y drafnidiaeth o'r ddwy ochr yn well.

Yr hyn yr wyf fi'n ei gofio orau yw fod Dafi'r Foel wedi mynd lawr bob cam i Aberteifi i weiddi dros Richards ond cafodd ergyd galed ar steps y Neuadd, a phrysurodd hynny ei ymadawiad o'r ardal.

A fydd Eglwys Annibynwyr y Foel yn barod i drefnu eisteddfod sydd yn gysylltiedig a'r Foel bellach ers canrif a mwy mewn safle newydd yn y ganolfan?

Wrth eirio'r arysgrif gwawdiai Pilat y genedl wrthnysig trwy sgrifennu'n foel fod y truan gwrthodedig yn 'Frenin yr Iddewon'.

Fel y dywedodd (rywsut), eto yn Llangollen: petai gūr Glenys (yr hen foi cringoch-foel anghofiedig hwnnw) wedi mynd yn brif Weinidog, yna mi fyddai o wedi bod yn Gymro yn rheoli Lloegr (a fyddai hynny ddim yn iawn), ac felly mae hi'n iawn i Blw-byrd, fel Sais, reoli Cymru.

PIGION Eisteddfodau lleol: Aeth tymor yr eisteddfodau lleol heibio bellach am eleni, ac yn ardal y Plu cafwyd dwy wyl yn y dosbarth yma, sef eisteddfod Seilo a'r Foel.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Felly beth am i'r mudiadau uchod ddod at ei gilydd gydag unrhyw un o garedigion yr eisteddfod i drefnu eisteddfod leol i ardal Llangadfan a'r Foel yn y ganolfan newydd y flwyddyn nesaf, ac efallai bod rhai yn ardal Llanerfyl yn awyddus i gynorthwyo i gario'r traddodiad yn ei flaen.

Cafodd ddalen o Destament Groeg ar ffordd Pen y Foel, a phenderfynodd ddysgu yr iaith honno, a gwnaeth hynny i raddau lled berffaith.

Ni fu erioed lawer o fywyd gwyllt ar Foel Hebog, Mynydd Brithdir na Mynydd Tyddyn.

Ond rwyn gobeithion fawr nad yw dan y camargraff mai dim ond oherwydd ei fod on foel y collodd yn erbyn Thatcher a Major.

Am eisteddfod y Foel, rhywbeth yn debyg oedd hanes honno, ond er dechrau yn wan yng nghyfarfod yr hwyr fe fywiogodd gryn dipyn fel aeth y noson ymlaen a chafwyd cystadlu brwd a safon uchel tua'r diwedd a gwell na'r cwbl, llawer o'r cystadleuwyr yn bobl ieuanc.

Neil Kinnock a ddywedodd yr wythnos diwethaf nad oes gan William Hague obaith yn y byd bod yn Brifweinidog - oherwydd ei fod on foel ac nad yw pobol foel byth yn trechu rhai gwalltog mewn etholiad.

Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangoS 'ar ei elfedeiddiaf', a defnyddio ymadrodd Tegla: Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wen haul: ond gwen oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Nid oes fawr o rug yn tyfu ar Foel Hebog nac ar un o'r moelydd eraill chwaith o ran hynny.

Mae'r felin foel yn cydio tir, môr ac awyr trwy linellau lletraws ei hesgyll.

Williams yn weinidog yma - y cyntaf mae'n debyg - yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r blaenoriaid oedd: John Jones, Segrwyd Isa; Owen Jones, Y Foel; a John Ellis, Garnedd Ucha.

Glynai ychydig gudynnau o wallt gwyn sych i groen ei ben, fel blodau gwyllt yn ymladd am eu heinioes ar graig foel.

Nid ychwanegwyd fawr ddim ers yr ail ganrif ar bymtheg i darfu ar ei eglwys foel un gofeb a'i glwstwr o ffermdai gwynion.

Edrychwch ychydig bach i'r chwith o Foel Hebog, wrth ichwi redeg eich golwg i lawr o'r Crib, cyn i Mynydd Y Tyddyn ddod i'r golwg a mi welwch, rhwng y ddau grib megis, Mynydd y Brithdir Mawr.

Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant.

Y tū tu mewn yn foel a chwerthinllyd o lân, dwi ddim yn meddwl y medrai fforddio menyw i lanhau.

Ond er hyn i gyd pur ansicr yw dyfodol Eisteddfod y Foel, gan fod yr hen neuadd yn y Foel, lle cynhaliwyd yr eisteddfod ers dros drigain mlynedd bellach yn dod i ben ei rhawd.