Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fola

fola

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

'Dou beth na all neb ddod o hyd iddyn nhw yw eira llynedd a chaws o fola ci,' torrais ar ei draws yntau'n fuddugoliaethus.

Byddai wedi bod yn braf cael cipolwg ar eira llynedd, ond rwy'n falch na welais i'r caws o fola ci!

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'