Cyn y gellir amgyffred y modd y mae solidau yn gallu mwynhau foltedd fel yn y transistor, neu gynhyrchu golau fel yn y laser, mae'n rhaid yn gyntaf ddeall rhywfaint o nodweddion solidau a grisialau.
Pan lwyddodd Bardeen, Brattain a Shockley i fwyhau foltedd trwy ddefnyddio grisial bychan o germaniwm, yn ffodus roedd y wybodaeth o hanfodion ffiseg solidau, ac yn arbennig ffiseg lled- ddargludyddion yn weddol gyflawn, yn dilyn damcaniaethau a seiliwyd bymtheg neu ugain mlynedd ynghynt.