Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fonheddig

fonheddig

Cymharodd yr Esgob Lewys Bayly o Fangor (a fuasai ar un cyfnod yn hen elyn i Wynn) deulu Gwedir i farch na wyddai ei nerth ei hun; cydnabuwyd mai gair Syr John oedd yr uchaf a'r parchusaf ymhlith ei gyd-ysweiniaid ar y fainc yng Nghaernarfon; a rhydd ef ei hun yr argraff yn gyson yn ei ohebiaeth iddo dderbyn addysg a disgyblaeth fonheddig a chwrtais.

"Yr offeiriedyn balch, anwybodus, anghristionogol yn Rhydychain neu Lanbed, sydd yn ry fonheddig i ddarllen un gair o'r ysgrythyr, nag i wybod dim oll o gynhwysiad y llyfr hwnnw; - Methodistiaeth yw hyny yn ei olwg; ac y mae ef ei hunan, a'i deulu gartref, lawer o raddau yn rhy genteel i fod yn debyg i Fethodistiaid...".

Sgrifennai Oakley yn dawel fonheddig, ond Ward yn ymosodol feiddgar, a chanddo ef yr oedd y meddwl miniocaf o'r ddau.

A chan mor ddeallus, gan mor fonheddig, gan mor sophisticated ydynt, mae'u hymddiddan yn ddethol, ac yn cuddio lawn cymaint ag a ddatguddio.

Roedd yn rhaid i wraig fonheddig ofalu am ei phlas, gan archebu bwyd, gofalu am yr arian a rhoi gorchmynion i'r gweision wrth iddynt baratoi bwyd.

Brithir y dogfennau â chyfeiriadau o bob math at ymateb y Wyniaid i'w hamgylchfyd a chyfnewidiadau arbennig y cyfnod, a'r gorchwyl pennaf iddynt oedd ceisio dyfnhau'r ddelwedd arbennig honno a'u clymai wrth yr haen fonheddig yn Lloegr.

a gorchfygwyd yr hen wraig fonheddig .

'Wy'n credu taw ei ffordd amyneddgar, fonheddig e oedd yn ei dangos hi lan, hyd yn oed iddi hi ei hunan, yn dangos yn gwmws beth oedd hi.

Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.

'Ymadaw' a wnaeth un fam fonheddig ar ei marwolaeth, meddid, 'niwedd meddiant, â'i phlas a bendith ei phlant'.

Yn ystod y cyfnod hwn dau ddewis oedd gan ferch ifanc fonheddig.

Mae ton eu lleisiau'n fonheddig a'u hosgo'n urddasol.

(Cyn i'r sbaniel gael cam, gweler y bennod 'Nedw' sy'n dilyn.) Gyda'i natur fonheddig a di-stŵr, gwnaeth Doctor Tudor swm mawr o ddaioni, nid yn unig yn ei syrjeri, ond y tu allan iddi'n ogystal.