Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.
Yr oedd hyn yn brofiad newydd iddo, ond ychydig yn unig o'r rhyfel a welodd Phil, oblegid ar un o'i fordeithiau cyntaf cafodd ddamwain erchyll pan ddaliwyd ei droed chwith mewn peirianwaith ar fwrdd y llong a'i malurio'n ddrwg.