Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

forgan

forgan

Rhydd argraff gref iawn ei fod yn nabod y llenorion y mae'n eu trafod, yn eu gweld yn fyw yn eu cyd-destun cymdeithasol, ond hefyd yn ymuniaethu â hwy fel unigolion (e.e., wrth gyfeirio at Forgan Llwyd y gŵr swil, neu wrth ddweud yn ei erthygl ar 'Weledigaeth Angeu': 'Mae'n anodd heddiw ddarllen unrhyw awdur na wynebodd wallgofrwydd'.

Yn ei bennill ar Forgan y mae Valenger yn gwrthgyferbynnu ei gybydd-dra honedig ag afradlonedd y Dr Thomas Preston, a oedd yn hoff iawn o lwyfannu masgiau ac a lysenwir yn 'Jason'.

Yn gyntaf, y maen'n ymddangos i Forgan fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle a oedd ar gael yn y Coleg a'r Brifysgol i feistroli Hebraeg wrth draed tiwtoriaid dawnus fel y Ffrancwyr Antoine Chevallier a Philip Bignon a'r Sais John Knewstub (efallai mai'r Ffrancwyr a ddysgodd Ffrangeg iddo'n ogystal); yr oedd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr addysg yr oedd yn ei derbyn neu wedi'i derbyn yn y celfyddydau a'r gwyddorau, athroniaeth, Groeg a diwinyddiaeth.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Oni ddylai daro mwy a mwy ohonom fel ffieiddbeth fod pobl a'u henwau'n Forgan a Megan sy'n byw mewn tai a elwir yn Nant y Grisial neu'r Gelli yn siarad Saesneg ac yn cael eu cyflyru i feddwl fel Saeson?

Methais â dod o hyd i fanylion am Forgan Williams hyd yn hyn, ac ni lwyddais eto i olrhain llawer o hanes William Williams.

Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

Yng nhgwrs yr achos hwnnw bu raid i Forgan gyfaddef ei fod yn mynd o gwmpas gyda dagr neu bistol dan ei gasog rhag ofn i Evan Meredith a'i bliad ymosod arno, a'i fod hefyd unwaith wedi rhoi a 'little flick or pat upon the chin or cheek' i'w fam-yng-nghyfraith pan oedd hi'n annog ei weision i ymosod ar rai Evan Meredith; ond fe wadodd yn bendant holl gyhuddiadau mwy sylweddol Meredith, a'm barn i am eu gwerth yw ei fod wedi ymddwyn trwy'r holl helynt gyda chryn ymatal a graslonrwydd, er ei bod yn gwbl amlwg hefyd fod elfen gref o ystyfnigrwydd yn perthyn iddo.