Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fory

fory

Yna'n cael nerth o rywle a dweud wrthi am ffonio Elsie ei hun (dim perygl iddi hi wneud hynny), ac nad oedd angen fy nghludo pnawn 'fory am fy mod i'n mynd i'r Rhyl yn y bore.

Bydd rhaid i mi fynd yno ilanhau erbyn fory, weldi.'

Wela i di yn y llys 'fory.'

Mem yn ffonio i ddweud ei bod yn galw bore 'fory.

"Tail fydd ynddi hi fory eto bois" meddai'i pherchennog yn ffeind ac yn flêr.

.' 'Tyd yn d'ôl 'fory.' Chwifiodd ei law mewn ffarwe/ l, ar fin boddi eto yn nyfroedd cwsg.

'Rwyn hapus bo fi wedi cael wiced a gobeithio daw un neu ddwy arall bore 'fory.

"Hitiwch befo, fe gawn ni fynd at yr afon fory." "Ac am bicnic ar y mynydd," galwodd Eira.

'Rhaid iddyn nhw gael ymarfer yn y Stadiwm Genedlaethol 'fory - dyna'r rheolau.

'Rwyn credu mai ennill fydd y peth pwysig 'fory.

Mae'r milgi'n dod fory.'

Tyrd yn d'ôl 'fory.' 'Ond heddiw, syr, y deudodd Emrys .

Bydd y gêm yn gorffen fory.

Bore fory bydd Matthew Stevens yn cwrdd â Tony Drago.

'Fe fydd y gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn syth ar ôl y plygain bore 'fory.' 'Yn yr eglwys, syr?' gofynnodd Seimon.

Mi fyddwn ni'n symud oddi yma fory."

'Mae Sri Lanka wedi batio'n arbennig o dda ond ni wedi cadw mewn yn y gêm, a gobeithio, gyda'r bêl newydd bore 'fory, y medrwn ni gael wiced neu ddwy yn gynnar.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

Mae e'n gwrando'n astud, a bydd i lawr yn dy dy 'fory yn moen yn ymuno%.

Ni'n hyderus iawn yn mynd i'r gêm yn erbyn Llanelli fory.

"Ond tydw i ddim yn cynnig sbarion i neb heno a hithau'n ddydd Nadolig fory.

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Pan fydda i'n sgwennu hwn gartra, mi fydda i'n medru edrach allan drwy'r ffenast, a gweld yr haul yn mynd i lawr, a dibynnu beth fydd 'i liw o, a lliw yr awyr, mi fydda i'n dyfalu sut ddiwrnod fydd hi fory.

Gorfod gohirio pryd gyda'r myfyrwyr gan fod yr Adran Saesneg wedi trefnu pryd i Kate a minnau i ddathlu fy mhen-blwydd fory.

Wedi iddynt fwyta pryd da, cododd Pierre, Mi awn i'n gwelyau,' meddai, cawn orffwys fory beth bynnag.' Arweiniodd y ddau i fyny grisiau llydain.

Hwyrach y ca' i lythyr 'fory.

Fe enillan nhw gyda llond cart o geisiau prynhawn fory yn Sain Helen, ac fe gân nhw gysgu'n dawel y penwythnos yma.

Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.

"Mae Stiwart wedi'n gwadd i gael cinio gydag e a Meri fory, os nad oes gennych chi wrthwynebiad," meddai Tom, cyn paratoi at fynd i'w wely - neu 'n hytrach, ei soffa.

Bydd Pontypridd yn chwarae Caeredin 'fory, ac yn y gêm arall, bydd Casnewydd yn teithio i Cross Keys.

Mae rheolwr Cymru'n gobeithio y bydd ei berthynas agos â rheolwr Manchester United, Alex Ferguson, yn golygu y gall Giggs chwarae yn erbyn Iwcrain yng Nghaerdydd, wythnos i fory.

Fe fydd tipyn o waith 'da ni brynhawn fory, sdim amheuaeth am hynny.

Y nos Sul gyntaf i mi yno, ar ôl i mi ddod o'r capel, meddai Mam wrthyf, "Rhaid i ti godi'n fore i fynd i'r ysgol fory." Doeddwn i ddim yn rhyw falch iawn o glywed hynny gan mai peth go fawr i fachgen swil yw mynd i ysgol newydd, i ganol plant dieithr.

'Fedra' i ddim fforddio'r trên yma 'fory eto.

Mae Graham Henry wedi dweud ei fod e eisiau rhedeg y bêl yn ôl at y Ffrancwyr fory - yn lle chwarae gêm gicio.

ond fe fydda i'n ei weld e bore fory.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Gyda llaw, fedri di gymryd achos gen i fory?

Ar ôl yr ymarfer neithiwr ar gyfer y gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Wcrain nos fory mae gan y rheolwr Mark Hughes ambell broblem oherwydd anafiadau yn y garfan.

Heddiw, doliau 'He- Man'; 'fory, crysau 'T' 'Turtles'; drennydd, trainers 'Bart Simpson'.

'Ond os na weithith hyn heno, mi fydd rhaid i ti feddwl am rywbeth nos fory.

Bydd pêl-droedwyr Cymru'n chwarae eu gêm nesa nhw yng nghystadleuaeth rhagbrofol Cwpan y Byd wythnos i fory - ac mae'n ymddangos fod hynny'n amseru gwell i dîm Mark Hughes nag i Armenia.

Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.

Ond mae Cwmbran wedi chwarae dwy gêm yn llai, ac yn wynebu Llanelli fory.

Disgwylir y bydd gan glwb y Barri berchnogion newydd erbyn fory.

Bydd tipyn o bwyse ar ysgwydde Matthew Maynard a bydd galwn gywir bore fory yn bwysig iawn.

"Trugaredd fawr, ddyn glân, ond mi fyddai yma bora fory eto.

Os mai na fydd yr ateb, mae hi'n ddigon posib mai Gary Lloyd - y cefnwr chwith fel arfer - fydd y golwr nos fory.

Gwell fyddai gosod Bianco uwchben y grêt yn yr ystafell nesa...ond fe wnâi hynny bore 'fory.

Mae Hughes yn ffyddiog y bydd Delaney yn ddigon iach i chwarae fory.

Mae rheolwr Abertawe John Hollins yn disgwyl i gyn-ymosodwr Chelsea, Mark Stein, roi gwybod iddo fo fory ydy o eisiau ymuno âr clwb ai peidio.

Mae nhw'n ymarfer efo ni nos fory, wedyn mi ddônt am wythnos gyfa, ac mi fydd fel Cad Gamlan acw wedyn." "Mae'n debyg y dylswn i ddangos fy wynab, gan mai Gwyn ddaru'u gwadd 'nhw yn y lle cynta'." "Debyg iawn; ond nid ddylswn i ddylech chi ddeud ond mi liciwn i.

Y gêm rhwng Barnet a Torquay 'fory fydd yn penderfynu pwy sy'n disgyn.

'Does 'na ddim gêm nos 'fory.' 'Oes!

'Mi ddo i fory i drio ennill tocynnau ffrwyth,' addawodd.

Bore fory (ddydd Iau) am 10.30 yn Ysgol y Parc, ger y Bala, fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio'r 'Chwilotydd', peiriant chwilio unigryw ar gyfer y We Fyd-Eang sydd yn dod o hyd i safleoedd Cymraeg.

"Ro'n i'n meddwl y bydden ni'n cwrdd fory.'

Yn ôl Undeb Rygbi Lloegr, mae'r gêm rhwng Lloegr a'r Alban yn siwr o gael ei chwarae 'fory.

'Gobeithio cawn ni'r fuddugoliaeth honno yng Nghaerffili 'fory.