Tua chanol nos trawyd y llyw gan foryn a thorri y postyn llyw yn agos i gorff y llong fel yr oedd yn amhosibl i'w llywio.
Ymuno unwaith eto â llong hwyliau fawr fel Ail Fêt a chael tywydd mawr ym Mae Biscay, a phan oedd yn gweithio ar y dec, llongwr oedd wrth ei ochr yn cael ei ysgubo i'r môr gan foryn trwm.