Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fraich

fraich

Felly y gwnaem o'r naill ran i'r fraich i'r llall gan gynnwys cymalau ac esgyrn; ac mae i bob asgwrn ei hyd a'i ffurf, a'r ffurfiau i gyd wedi eu creu gan y cyhyrau.

Mae wythwr Pontypridd, Dale McIntosh, wedi torri ei fraich a nid yw'n debyg o chwarae eto y tymor hwn.

Clymodd ei braich am ei fraich o a'i arwain i'r stafell fwyta lle roedd Elsbeth ac Eurwyn yn aros amdanynt.

'Roedd Edward yn bwyta 'i ginio fel arfer, ac yn siarad gyda'r gath ar fraich ei gadair bob yn ail.

Dôi ambell i filwr adre o'r rhyfel yn gloff, yn brin o fraich ac weithiau'n ddall ond arwydd o statws oedd hynny.

'Arhosa i gyda chi heno, Mam-gu,' meddai Seimon, a rhoi ei fraich o i hamgylch i'w chysuro.

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

Nid oedd wedi rhagweld faint o greigiau fyddai'n disgyn: disgynnodd un ohonyn nhw ar ei fraich, gan rwygo ei lawes.

." Gafaelais yn dynnach yn ei fraich i geisio'i rwystro rhag ailddechrau cwyno'n uchel.

Yn ail, roedd o'n dal Julie Angharad ar ei fraich dde.

Teimlodd fysedd ei fam yn gwasgu, gwasgu ar ei fraich.

Cwpanodd ei fysedd amdani ac ar unwaith teimlodd drawiad o iâ ar hyd ei fraich.

Cyn it i gael amser i ymddiheuro, i esbonio nac i raffu celwyddau, cwyd yr hen ŵr ei fraich â'i law agored tuag atat.

Os ei yn dy flaen yn syth y ffordd acw," medd, gan godi ei fraich tua'r de, "ymhen ychydig filltiroedd fe ddeui at Afon Cynnach.

Gwasgodd Cadi fraich Huw, "Diolch i chi, Huw, am ddwad â ni yma." Rhoddodd Huw ei ben i lawr yn swil a gwrido, ond gwenodd yn hapus.

Gwyddai na allai Dad redeg ar ei ôl, ddim â'r bygi yn ei ofal a'r pecyn sglods dan ei fraich.

Ond dull y Siapaneaid ydyw estyn y fraich allan, dal cledr y llaw i lawr, ac amneidio â'r bysedd yn unig.

Atebodd Idris hi'n bendant ac yn derfynol nad oedd am ildio'r Afal Aur, ond nid cyn i'r Ffantasia ffug afael ynddo gerfydd ei fraich i ddwyn yr afal hud.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Ateb Teyrnon i'r ymgais gyntaf am ddial oedd trais: fe dorrodd fraich yr anghenfil a oedd wedi cipio'r plentyn.

Nid oedd ei lygad tro ef na'r ffaith fod ganddo y naill fraich beth yn fyrrach na'r llall yn ei wneud ef yn ŵr arbennig o ddeniadol i neb.

Byddai'r fraich wedi ei gorchuddio a'i chadw mewn cadachau o formalin ac wedi'r cam cyntaf hwn aem ati wedyn i'w gwaredu o'r saim a'r bloneg nes dod at y croen sy'n dal y cyhyrau yn eu lle a dysgu wedyn am fan tarddiad a phwrpas pob un.

Estynnodd ei ddwy fraich uwch ei ben.

Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.

Gwthiodd ei hun ymlaen ar ei ben-lin a'i benelin dde am ychydig, gan lusgo'i fraich a'i goes chwith yn boenus ar ei ôl.

Deallwyd yn y ddeunawfed ganrif fod Cowpog yn diogelu rhag y Frech Wen ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd cynnwys pothelli Cowpog i mewn i fraich person a oedd wedi bod gerllaw rhywun â'r Frech Wen.

Gwelent ef yn codi ei fraich dde ac yn rhoi ei law ym mhen uchaf y gilfach tra y daliai'r dorts yn ei law chwith.

A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?

Dull y rhan fwyaf o genhedloedd wrth alw rhywun atynt ydyw rhoi arwydd â'r fraich gan ddal cledr y llaw tuag i fyny.

Treulid tri mis yn astudio'r fraich yn unig gan gychwyn efo'r croen.

Aeth ei fraich yn ddiffrwyth gyda'r boen.

'Dere,' meddai Ifan a'i law yn dal ar fraich Dilwyn, 'mae Dad wedi cyrraedd.' Cododd y ddau a ffarwelio â'u ffrindiau cyn camu tua'r drws.

Hwyrach mai'r Brenin Arthur sydd yna!' 'Bydd ddistaw!' sibrydodd Alun gan roi pwniad i Bleddyn yn ei fraich.

Roedd Seimon ar fin cynnig mynd yn ei lle pan roddodd y ficer ei law ar ei fraich i fynegi ei fod yn dymuno sgwrs ag ef.

Roedd un o hogiau Caernarfon wedi mynd mor gyfeillgar ac un o'r merched yma fel y mentrodd roi ei fraich amdani.

Gallai deimlo ei braich yn erbyn ei fraich ef, ei chlun yn erbyn ei goes.

Credir ei fod wedi torri ei fraich ac y bydd allan am rai wythnosau.

Ar fraich y gadair esmwyth roedd papur newydd, a phâr o esgidiau ar y llawr yn ei hymyl.

Yn fynych, bydd y person wedi cwympo ganol nos yn y toiled ac wedi torri asgwrn ei goes neu ei fraich.

Mae'r prif bwyslais ar fywyd y pentref a'r wlad yn hytrach na gwaith y ffariar, er ein bod wedi ei weld ambell dro gyda'i fraich, at ei gesail, ym mhen ôl rhyw fuwch !

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

Ond efallai, meddyliodd, wrth deimlo'r gwaed yn llifo o'i ysgwydd ac i lawr ei fraich, y byddai'n anodd defnyddio manual ar y funud ta beth .

Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

Daeth Abdwl at Glyn a gafael yn ei fraich a'i arwain at gefn y tŷ.

Yna daeth Sarjiant, â_ rhuban coch ar ei fraich, allan o adeilad ar y dde.

Amser maith yn ôl yr oedd Tonle Sap yn fraich o'r môr, ond gyda threigl y blynyddoedd ymffurfiodd y llaid a gludid gan yr afon i lawr i'r môr, yn ddarn o dir ar draws genau'r afon a chaewyd Tonle Sap i fewn.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd claf yn yr ysbyty boen a thrwch o bothelli ar ochr chwith ei wddf yn ymestyn i'r fraich, a'r ymddangosiad yn nodweddiadol o'r Eryrod.

Wedi gwisgo'r siaced lwyd, caeaodd y botwm canol a gwthio ei fawd o'r tu ol iddo gan gadw ei fraich arall yn syth wrth ei ochr.

Unwaith fe ddaliodd leidr oedd am dorri i mewn i garej y tŷ drwy gau'i safn am ei fraich a dal ei afael nes i dad Rolant ddod i ryddhau'r dyn.

'Mae arna' i ofn, 'machgen i, na ddoist ti i'r lle iawn hefo'r llyfr yna o dan dy fraich.

Bron na fedrai Joni ei chyffwrdd petai wedi codi ei fraich.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

Y parsel dan fraich Dad a dynnodd sylw Rhys, parsel ac ager yn codi ohono.

Bant â'r ddwy gyda'i gilydd, fraich ym mraich.

Swatiai Dic wrth ben y bwrdd hir, weithiau â'i fraich am ysgwydd Wil.

Fe gychwynnodd y Mini ar y taniad cyntaf, a chyn pen dim yr oeddwn i'n gyrru drwy'r dref a heibio eglwys Y Santes Fair, ac i'r wlad, a'r fraich sychu'n siglo'n ol a blaen fel peth gwyllt ar y ffenestr o flaen fy llygaid i.

"Meddwl am rywbeth i'w fwyta rwyt ti, mae'n siwr," meddai'r morwr unig gan godi un fraich i'w hel i ffwrdd.

Ond os na ddechreuith Ronnie chwarae gyda'i fraich chwith bydd yn rhaid i John Higgins fod ar ei wyliadwraeth.

Ac ni allai Waldo namyn estyn ei fraich i ysgwyd llaw â'i ewythr.