Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frawddeg

frawddeg

Gwelais frawddeg: "Hyd ei ymddeoliad cynnar gwasnaethodd ar Staff Banc y Barclays".

Y frawddeg i'w chofio yw'r un a ddywed: "Po fanaf yr had, manaf y pridd." Rhai mân iawn yw hadau lawnt.

Yr Enw sy'n cynnal syniad y frawddeg neu'r ymadrodd - yn oddrych.

Ac yn ei sgil, cyfundrefn y frawddeg aeddfed.

Adeiladu rhesymegol Gellid symud oddi wrth unrhyw un o'r elfennau hyn yn ei thro i ddatblygu unrhyw frawddeg newydd.

"Rwyf wedi meistroli ambell frawddeg sy'n fantais wrth fy ngwaith" meddai'n gellweirus wedyn.

Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.

Ond chafodd Elen ddim cyfle i orffen y frawddeg.

.' Yna mae trefn gystrawennol y darn yn chwalu i gyfleu anhrefn y darlun digrif nes y down at y diwedd, pan dry'r frawddeg yn ôl arni ei hun er mwyn y clo: .

Gofynnodd i mi a fuaswn yn fodlon dod yn ôl bore trannoeth i fynd dros y frawddeg gyda hi jest cyn iddi fynd i'r neuadd.

Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.

Mae gan Shelley frawddeg yn defnyddio trosiad i ddisrgifio'r meddwl creadigol, ac fe all ei bod yn taflu goleuni ar feddwl creadigol Waldo : "The mind in creation is a fading coal, which some invisible influence like an inconstant wind, awakens to transitory brightness."(A Defence Poetry).

Mae'r Enwau i gyd yn rhan gyntaf y frawddeg yn Lluosog ac yn yr ail ran yn Unigol - 'llyfrau, ffynnonnau, dyscawdwyr, goleuadau' ar un llaw a 'air byr, gwirionedd' ar y llaw arall.

Dyma frawddeg gyntaf Enid Baines 'Roedd ymddiried y dasg o sgrifennu hanes bywyd Arthur Rowlands i mi fel gofyn i un na lwyddodd i wau jersi blaen fynd ati i wau un fair-isle.

Dyma'r frawddeg sydd ganddo i gloi'r ysgrif: 'Yn ei farwolaeth collodd llenyddiaeth un o'i charedigion pennaf, er na chwanegodd nemawr ati, a theilynga gongl fach ganddi hithau i'w goffadwriaeth.'

Yma mewn un 'frawddeg wrth wrthbwyntio Lluosog ac Unigol, newidiodd Morgan Llwyd ei dôn o un ddifri%ol, gondemniol, watwarus y rhan gyntaf i un ymbilgar, dirion yr ail ran.

Ceir blas ei feddwl yn y ddwy frawddeg hyn:

Llyfrau syml iawn, yn cyflwyno gwahanol deganau a thywydd sylfaenol gyda pwt o frawddeg yn disgrifio'r llun ar y top.

Carwn fedru dyfynnu'r frawddeg ar y cof a dyma ymgais: 'Roedd prif broffwyd llyfrgellwyr Lloegr, a pherson a edmygwn i mor fawr, wedi traethu gwirionedd!

Mae'r un frawddeg yn cael ei hailadrodd ar bob tudalen er mwyn cyflwyno synau anifeiliaid gwahanol mewn ffordd sy'n gyfarwydd - ac mae'n gweithio.

Y peth canolog a wna baban yw adeiladu'r frawddeg hon (neu amrywiad arni), a dysgu amrywio o fewn ei rhannau.

Daeth i eistedd wrth fy ochr a dywedodd wrthyf y buasai yn hoffi i mi ddweud y frawddeg drosodd a throsodd nes iddi hi fy stopio.

Olyniad o arwyddion ieithyddol oedd brawddeg i Saussure, yn meddu ar ddau fath o berthynas: (i) perthynas syntagmatig, sef trefn arbennig elfennau'r frawddeg, a (ii) perthynas baradigmatig, sef perthynas rhwng yr elfen - yr arwydd - sy'n bresennol a'r rhai nad ydynt yn bresennol, megis y berthynas rhwng ffurfiau berfol fel mae, oedd, bydd, etc, a allai weithredu yn yr un lle mewn brawddeg.

Dyna wnes ac mae yna yn archif BBC neu HTV erbyn hyn lun ohoni yn ynganu y frawddeg enwog yn dda iawn yn Aberystwyth.

Does dim math o frawddeg arall heblaw'r frawddeg sy'n defnyddio un neu ragor o'r tair elfen hyn - heblaw ebychiadau.

Darnau o sgyrsiau pobol eraill mewn gwirionedd achos rhyw ran o frawddeg wrth iddyn nhw basio ydych chi'n eu glywed gan amlaf.

Ynghanol y berw yr wythnos diwethaf ynglyn â dysgu Saesneg, dywedodd un o ladmeryddion y llywodraeth frawddeg arwyddocaol.

Buom yno ar ein penau'n hunain am ryw chwarter awr yn mynd drwy'r peth ac yna fe ysgrifennais y frawddeg yn y dull ffonetig iddi a'i gadael efo hi.

Da y'i dywedwch; ond y tro hwn y cwbl dw-i am ei drafod yw un frawddeg yn unig ac esbonio'n union pam mai hon yw brawddeg bwysica'r iaith.

Dw i wedi i glywed o'n dweud droeon: 'Os dach chi ddim yn siwr o frawddeg, neu hyd yn oed un gair, gadewch o allan.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

..' Rheolir y frawddeg nesaf gan ferf sydd yn cyfleu gweithred feddyliol - 'Penderfynodd'; yna daw dwy ferf sy'n adrodd gweithrediadau go iawn ar ei ran ef, sef 'Cyfeiriodd' ac 'adroddodd'.

Y mae a wnelo'r frawddeg ynghylch lleoliad Gwilym druan, ac yn ei sgil yr holl broses o raddio cwrs, â'r ail gwestiwn.

Nid llawer, efallai, sydd wedi darllen pregethau John Donne, ond daeth un frawddeg ohonynt yn bur hysbys ar ôl i Ernest Hemingway ei dyfynnu ar flaen ei nofel, For Whom The Bell Tolls.

Y frawddeg oedd 'Wel mi wnaeth ei orau wsti' neu 'Mi wnaeth yn llawer gwell na chdi a fi'.

Yr oedd yn feistr ar yr eglureb gartrefol a'r frawddeg gofiadwy.

Ynganais y frawddeg dair ar ddeg o weithiau cyn iddi ddweud stop ac yna dywedodd hi y frawddeg.

Dichon y byddwch yn cofio'r frawddeg gyfrin ryfeddol.

'Beth wnân nhw os dalian nhw ni?' 'Wnân nhw mo'n dal ni.' Roedd yna rywbeth anghyfforddus o derfynol yn y frawddeg.

A allai'r Frawddeg Annormal fod yn ganlyniad syml i arfer y mynaich o siarad Saesneg, rhyw fath o ddullwedd neu snobyddiaeth lenyddol?

Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen i'r rhiant ei darllen allan.

Yn y frawddeg gyntaf, heb dorri ar symudiad yr adroddiad, rhydd argraff glir o gyflwr mewnol Robin.

Trefnu sut y mae'r frawddeg greiddiol yn ymagor.

Ar ôl sefydlu'r frawddeg seml, nid yw datblygiad pellach - datblygu gair unigol i fod (a) yn ymadrodd, neu (b) yn gymal, neu amrywio trefn olynol - ond yn fater o estyn yr un cynhwysion.

Fe sylwch mai tair elfen sydd yn y frawddeg.

Mae'r addasiadau Cymraeg yn dderbyniol er bod y gair etifeddu yn y frawddeg gyntaf yn Pws Esgid uchel wedi bod yn ychydig o rwystr wrth ddechrau'r stori.

Yn y frawddeg 'Mae Gwilym yma', yr enw priod yw'r gair syniadol mwyaf cyntefig syml o ran gramadeg: enwi diriaeth a wna.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.

Gadewch imi esbonio yn gyntaf pam y dywedaf mai'r frawddeg hon yw craidd cynllunio iaith, ac yn ail sut y gellid defnyddio'r wybodaeth ryfedd honno i adeiladu cwrs o gwbl.