Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frecwast

frecwast

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

'Diolch byth 'mod i wedi yfed gormod o de i frecwast bore 'ma, neu fyddwn i ddim wedi dod 'ma .

Erbyn iddi hi ymuno ag e, roedd wedi gorffen ei frecwast ond cynigiodd ffonio am goffi ffres.

Ceisiwch fwyta prydau rheolaidd a pheidiwch a mynd heb frecwast.

"Mae fel ffair yma bois!" meddai Dafydd, wrth chwilio am le i eistedd i gael ei frecwast.

Beth am frecwast yn y gwely, egwyl rhag golchi'r llestri, smwddio, garddio neu beth bynnag y byddwch yn gael yn waith anodd.

Mae'n ddigon posib y basa'n well gen ti fod yn frecwast i Caligwla na chael dy holi gan honna.

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

Doedd o ddim wrth y drws pan agorais iddo ddod i mewn am ei frecwast.

Bu yma hel gofalus ac yn y bore yn blygeiniol yr oeddem ar frecwast.

Codem am hanner awr wedi chwech bob bore, ond nid oedd sôn am frecwast nes inni fynd ar barêd i gael ein cyfrif, ac yn aml byddai'n hanner dydd cyn bod y parêd drosodd, a ninnau bron diffygio.

Gwelwn yn fy meddwl y gŵr hwn yn cael platiaid o gig moch ac wy i frecwast a gweld tipyn o doddion o gwmpas ei geg!

Roedd yn gymeriad annibynnol iawn - yn parhau i baratoi ei uwd i'w frecwast yn ddyddiol.

Fydd o beth yn methu dod i nôl ei frecwast ac roeddwn i wedi agor ei dun bwyd o'n barod.

Yna cafodd ei frecwast yn y gegin ac wedi iddo orffen daeth y forwyn i glirio ar ei ôl.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

Ar ôl deffro i frecwast blasus diolch i Elin sy'n gweithio yn y ganolfan, (a chlirio ychydig ar effaith y Pino-shite), parhawyd â'r drafodaeth am ddeddf iaith ar y bore Sadwrn.

Fore drannoeth pan ddaeth y gŵr pwysig i lawr i frecwast cafodd fy mam ei rhyddhau o'i blinder, neu o leiaf roedd hi bron yn siwr.

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.

Y prydau trwm llawn caloriau a gaiff eu bwyta yn hwyr yn y nos yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o roi pwysau ychwanegol ar eich corff, nid y bwyd y byddwch yn ei fwyta i frecwast, yn arbennig os byddwch yn dewis frawnfwydydd neu dost.