Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fred

fred

Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Yna, gofynnodd Mary iddo fynd â'r allwedd yn ôl at Fred Bird.

Ni ddychwelodd i fflat Fred yn Stryd Alma, ni chysylltodd â'i mam na'i chwiorydd ac ni welodd ei phlant na neb arall hi hyd y dydd heddiw.

Am rai wythnosau bu Fred yn gyrru'r fen o gwmpas y dref, weithiau yng nghwmni Ali ac weithiau yng nghwmni Mary.

Fred Jones a HR Etholwyd swyddogion - Lewis Valentine yn Llywydd, Moses Gruffydd yn Drysorydd, HR Jones yn Ysgrifennydd, a thri aelod arall o'r pwyllgor gwaith, Saunders Lewis, Fred Jones a D.l.

Aeth Fred Bird gyda hwy.

Yn fflat Fred yn Stryd Alma yr arhosodd Mary y noson honno.

Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.

Cawsant ginio ac aeth Fred at ei waith.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Cadwodd Fred yr oed ond gorfu iddo ddisgwyl am awr yn ei fen y tu allan gan fod yr allwedd gyda Mary.

Pan ddaethant yn eu hôl, torrodd Mary'r newydd iddo nad oedd, wedi'r cwbl, yn mynd i fyw at Fred Bird ond bod ganddi rywun arall.

Nid er dim y bedyddiwyd ef yn Fred Bird.

Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.

Tua hanner awr wedi un-ar-ddeg gadawodd Mary ef i fynd i gwrdd â Fred mewn caffi.

Ymhen dim daeth Fred yn gyfaill i'r teulu, a galwai yn y tŷ yn gyson.

Bu Fred Bird yn chwilio amdani drwy'r noson honno.

Ar ddiwrnod olaf Awst bu'r tri yn trafod y sefyllfa a chyhoeddodd Mary a Fred eu bod yn mynd i fyw gyda'i gilydd.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.

Ni fedrai Fred gredu'r stori o gwbl a sylwodd fod golwg gythryblus dros ben ar Ali.