Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

freud

freud

Fe wyddom oll am ddiddordeb Freud yn y chwedlau Thebaidd, yn enwedig yn hanes Oidipos, ac am ddiddordeb mwy cyffredinol Jung yn y maes.

Ystyrid ei bod, drwy ei g^wr Ernest Jones, cofiannydd Freud, yn gysylltiedig â'r budreddi a ddeilliai o Fienna.

Megis i Freud, y mae gwedd o rywioldeb ar bopeth bron i ddisgyblion Jung hefyd, ond yr oedd Layard, fel ei feistr, yn ymwybodol o'r ysbrydol a'r diwylliadol yn ogystal.

Awgrymwyd eisoes fod Waldo'n mawrbrisio'r hyn a oedd Dychymyg neu 'Imagination' i Blake, ond rhyngom ni a Blake y mae Freud a'i ddamcaniaeth am yr isymwybod, a bellach fe briodolir i'r isymwybod lawer o'r gweithgareddau a briodolid gynt i'r dychymyg.

'Roedd seicdreiddiaeth a seicoleg yn bynciau gweddol newydd yn y dauddegau, a phobl yn dechrau dod i ddeall syniadau Freud, a phroblemau fel gwallgofrwydd.

Wedi mynd trwy danchwa'r dosbarth Ysgol Sul hwnnw yn Seilo (ac wedi darganfod The Future of an Illusion, o waith Freud yn llyfrgell y Coleg Ger y lli ryw ddeuddydd cyn Sul y danchwa!), 'doedd dim rhaid i mi wrth na Rudolf Bultmann na Phaul Tillich na'r un enaid arall i'm hannog i ddadfythu'r Testament Newydd.

Dan arweiniad Freud, daeth y meddwl, a chymhlethdod y meddwl dynol, i mewn i farddoniaeth Gymraeg.

"Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r cyngerdd heno gymaint ag a wnaethon ni," meddai Anthony Freud, y llefarydd ar ran y panel beirniaid, cyn cyhoeddi enw enillydd y noson.

Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.

Mae Mr Freud, bendith arno, yn cyhoeddi popeth yn y ddwy iaith.