Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frifo

frifo

Ti yw'r unig un a fedr ei wir frifo.

'Heb frifo, 'naddo?' gofynnodd y perchennog yn dawel.

Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.

Hyn oedd yn ei frifo fwyaf, ac yn peri iddo chwerwi.

"Ddaru o dy frifo di?" gofynnodd un o'i gyfeillion.

O wneud hon yn rheol gyffredinol byddai pawb yn gwybod lle mae o - cyn brifo a chyn cael ei frifo.

A dechreuasant ganu can a oedd, roedd yn amlwg, wedi cael ei chanu lawer gwaith o'r blaen gyda'r bwriad o frifo: ...

Doedd neb yno i'w boeni na'i frifo.

Fe all y chwerthin creulon frifo mwy na geiriau, a gadael craith.

Nid oedd Rhodri'n fychan o bell ffordd a rhoddodd dacl i un o'n chwaraewyr ni a'i frifo.

Nid oedd dim yn ei frifo'n waeth na chlywed rhywun yn dweud ei fod yn methu deall rhyw gerdd o'i eiddo.

Wnaethoch chi frifo'n arw?

Maen nhw'n dal i frifo - pethau fel pobl yn diodde' o'm blaen i .

Bydd fy ngwaith yn helpu Paul yn siwr o'i frifo a gwneud iddo feddwl fy mod yn benderfynol o bwysleisio'r diffyg ffafr y mae ynddo ar y foment.'

Cyn gollwng y rhaff i'r pydew dyna fo'n taflu hen garpiau a hen fudr fratiau i lawr ac yn dweud wrth Jeremiah am roi'r rheiny o dan 'i geseiliau rhag i'r rhaff 'i frifo fo wrth 'i godi.

'C'ofn i chi frifo.' Wedi teimlo'i draed oddi tano unwaith yn rhagor, a sefyll am foment i atgyfeirio, edrychodd i fyw llygaid yr hwsmon a'i gyfarch yn siriol ddigon.