Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frigau

frigau

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

bachgen, ddim mwy na naw neu ddeg oed, fe dybiai, yn gafael yn dynn a 'i ddwy law mewn dyrnaid o frigau digon bregus yr olwg arnynt, a 'r rhan fwyaf o 'i gorff bychan yn cael ei chwipio 'n gyson gan ruthr y dyfroedd o 'i amgylch.

O wisgo coron o frigau ysgawen noswyl Calan Mai gellir gweld bodau goruwchnaturiol.

Baglai Mathew dros frigau'r creigiau a brwydrodd drwy'r tyfiant yn ddiymwared er bod ei gymalau'n crynu gan ofn.

Mae pob ffrwyth sydd yn aros ar frigau'r llwyn yn codi ei werth y tu hwnt i reswm gyda threigl y misoedd llwm.

Ers talwm roedd yr arferiad i olchi rhan briwedig o'r corff gyda cherpyn a dŵr y ffynnon ac yna clymu'r cerpyn i frigau'r ddraenen.

Oherwydd cyfyngiadau ar amser -- fel ymhob rhaglen deledu mae'n siŵr -- ni allodd Moc Morgan wneud cyfiawnder â dawn Ray Jones, Conglywal, Blaenau i lunio ffyn o bob math o'r defnyddiau y mae'n eu casglu o frigau a changhennau y mae'n eu gweld yng nghoed ei fro.