Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frodor

frodor

Ac yntau'n frodor o sir Frycheiniog, ac wedi treulio'r rhan helaethaf o'i oes yn llafurio yn y sir honno, y mae'n teilyngu amlygrwydd mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yr oedd yn frodor o'r ardal, ond fel yr awgrymais, y peth arbennig o ffodus yn ein cyfarfyddiad oedd mai ganger oedd Mr Jones cyn i'r lein gau.

"Dwi wrth fy modd beth bynnag yn gweithio efo pobl ifanc," meddai'r ferch sy'n frodor o Fynydd Hiraethog yng Nghlwyd ond sydd bellach wedi hen ymgartrefu yn Harlech.

Yn frodor o Aberdâr, y mae'n byw yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth.