Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frodorol

frodorol

Sylweddolwyd bod sgiliau a gwybodaeth ac ymwybyddiaeth hanesyddol y bobloedd frodorol yn hanfodol i fedru creu trefn deg a gwir gynaladwy.

rheswm dros hyn yw mai cymdeithas gymharol ifanc yw cymdeithas America y dyn gwyn, heb hanes a diwylliant hynafol y bobl frodorol yno, ac wedi colli cysylltiad â diwylliannau'r ymsefydlwyr cyntaf o Ewrop.

Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.

Os nad oes gennym chwedl gyflawn, ysgrifenedig am Drystan, boed honno'n stori frodorol neu'n un wedi ei haddasu o ryw ffynhonnell Ffrangeg, pa dystiolaeth sydd ar ôl i bresenoldeb traddodiad byw am y cariadon yng Nghymru?

Yng ngogledd Ffrainc (La France du Nord) y down o hyd gyntaf i farddoniaeth a gyfansoddwyd fel efelychiad ar y canu Trwbadwraidd eithr yn yr iaith frodorol.

mae'r grefydd frodorol ynghlwm wrth ddechreuadau mytholegol y llwyth, ac mae pob tylwyth yn parhau i dalu gwrogaeth i'r pennaeth lleol, y Syiem.

Mae'r nodyn a ganlyn sydd gan Maredudd ab Iestyn ei hun yn y rhaglen yn bwysig ac yn ddadlennol iawn, 'Fel pensaer mae gennyf ddiddordeb mewn ffurfiau adeiladau traddodiadol neu frodorol a'r modd y maent wedi eu gosod yn y tirwedd.

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).