Mae'r Aderyn Du a'r Fronfraith yn bwyta'r aeron.
Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.
Mae hefyd yn cynnig safleoedd nythu i'r Aderyn Du, y Gwybedog Brith a'r Fronfraith.
Oherwydd parhad aeron y gelynen, mae'n talu weithiau i'r fronfraith fawr (neu gaseg y ddrycin) eu hamddiffyn rhag adar eraill a'u dogni drwy'r hirlwm.
Y gaseg ddrycin sydd ar frig y pentwr, ac ar ei hôl, yn eu tro mae'r socan eira, y fwyalchen, y fronfraith a'r goch-dan-aden.