Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fud

fud

Mae'r gofod - dyna yw'r 'nef' yn y fan hyn - yn gwbl fud am nad oes awyr yno i gludo tonfeddi sain.

Mae'n fud yn yr ystyr ffisegol, ond mae hefyd yn gwbl ddiffrwyth a dibwys.

." Aeth yn fud.

Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.

At hyn eglura fod mudiad heb gylchgrawn 'yn fud a diamddiffyn, yn ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo'.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Llosgid darnau o goed megis ffawydd, gwern, helyg a derw yn araf ac yn fud mewn pyllau mawr caeedig dros amser hir yn yr haf i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y diwydiant haearn a diwydiannau eraill.

Mae newyn wedi arwain unwaith eto at farbareiddiwch yn Ewrop, ond y cyfan a wnawn ni yw syllu'n fud.

Rai blynyddoedd yn ôl byddem wedi clywed prostestio croch am hyn o dueddau gwarcheidwaid y Sul ond fel syn digwydd bellach yr oeddan nhwythau mor fud a difater ar gweddill ohonom.

Sawl llong mewn trybini wyliasant yn fud?

Tawelodd y lein a safodd Angharad yn fud.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Teg yw nodi na fu'r Eglwys yn fud yn ystod y fath alanastra o achos apwyntiwyd Sulien, gwr o gyraeddiadau uwch na'r cyffredin yn esgob Tyddewi.

Rhaid i mi gael gwaith a mwy o sicrwydd." Yr oedd y plant yn fud.

Safodd Siân a Tudur yn hollol lonydd ac yn hollol fud am funudau hirion gan syllu ar y sach agored yn y twll o'u blaenau.

Fel fflach, cuddiodd y fechan ei thrysor y tu ôl i'w chefn, a rhythodd yn fud, herfeiddiol ar ei mam.Mân Sôn - Gruffudd Parry (tud.

Aeth y ddau arall yn nes ato a syllu'n fud.

Unwaith eto roedd gosgordd o'u cwmpas, gosgordd fud a synnai fod brodor cyffredin yn cael y fraint o gyfarfod â'u brenin.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

Gofalodd y golygydd hefyd, yn ôl ei ddiffiniad o swyddogaeth cylchgrawn crefyddol, na châi'r mudiad fod yn 'fud a diamddiffyn' tra bo byw'r Ymofynnydd.

Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.

Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.