Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fudiad

fudiad

Y mae'n bwysig cofnodi i'r Gymdeithas gael ei sefydlu gan fod Dawer iawn o aelodau teyrngar Plaid Cymru yn teimlo'r angen am fudiad iaith annibynnol.

Ymroddi i fudiad y Beca ac i Siartaeth.

Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.

Ac ail-ddatganwyd egwyddorion sylfaenol Cymdeithas yr Iaith mewn cynnig gan Angharad Tomos a Dafydd Morgan Lewis, sef bod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sosialaidd, ei bod yn fudiad di-drais sy'n credu mewn heddychiaeth ymosodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.

Mudiad y Ffermwyr Ifanc yw prif Fudiad Ieuenctid Cefn Gwlad Cymru, sy'n darparu cyfleoedd arbennig i bobl ifanc Cefn Gwlad i fwynhau, i ddatblygu, ac i ddysgu.

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.

Yr oedd amryw a ddisgwyliai i Blaid Cymru fod yn fudiad iaith yn bennaf ac, a bod yn deg, ar un olwg dyna oedd y bwriad gwreiddiol hanner canrif yn ôl.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

) Yr oedd yn naturiol i fudiad mor llwyddiannus gael ei feirniadu'n llym iawn yn Sgotland ac oddi allan.

Serch hynny, i fudiad a froliai ei fod yn anelu at chwyldroi amgylchiadau cynhaliol yr iaith Gymraeg, rhaid cyfaddef mai gwendid oedd y diffyg canolbwyntio ar syniadaeth.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Rwy'n casglu, felly, nad ydi hwn yn fudiad ifanc o ran nifer blynyddoedd ei aelodau.

Y tro diwethaf, bu'n rhaid cadw trefn drwy ddefnyddio tanc a gipiwyd gan Fudiad Cenedlaethol Somalia oddi wrth fyddin y wlad honno.

Efallai eich bod chi dan yr argraff eich bod yn aelod o fudiad pwyso oedd yn defnyddio dulliau o weithredu uniongyrchol di-drais.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar Plaid Cymru fe'n hargyhoeddir ar unwaith mai gwyr glew a gwragedd dewr a'i sylfaenodd, H. R. Jones, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. J. Williams, J. E. Jones, Kate Roberts; amser a ballai i mi fynegi am J. P. Davies, Ben Owen, Ambrose Bebb, Mai Roberts, Cassie Davies ac eraill, y rhai a roddodd fudiad rhyddid Cymru ar sylfaen ddiogel.

Ac nid yw Cymdeithas yr Iaith yn fudiad i roi'r gorau iddi.

Bu'r un mor barod i daro cleddyf â gweinidogion Ymneilltuol, a chyd- weinidogion o fewn ei fudiad ei hun.

Ond y pentref unigol (a'r gweithle) yw sylfaen bywyd cymunedol naturiol neu anffurfiol y mwyafrif o drigolion ac, ar y lefel hon y creir ymwybyddiaeth o berthyn i gymuned organig ac amlochrog o'i gwrthgyferbynnu â pherthyn i fudiad neu garfan diddordeb arbennig.

Wrth i ni godi tâl aelodaeth ffurfiol eleni 'rydym yn hyderu y bydd ein haelodau'n fwy ymwybodol eu bod yn perthyn i fudiad a'r mudiad hwnnw'n tyfu ac yn ymestyn i hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg trwy'r wlad.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Fel golygydd Yr Ymofynnydd gwasanaethodd fel cydwybod a chennad, amddiffynnwr ac ymosodwr i'w fudiad - y mudiad a garai mor angerddol.

Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn bwysig wrth ystyried yr ateb i'r cwestiwn pa bryd y dechreuodd yr un canu ddylanwadu ar farddoniaeth Gymraeg - ond nid llai pwysig na hynny ydyw'r ateb i'r cwestiwn a allai effaith gyffelyb i effaith dylanwad y canu Trwbadwraidd fod wedi ei chynhyrchu gan ryw fudiad barddonol neu gymdeithasol arall.

Polisi i fudiad yw ef a'r mudiad hwnnw yn yr ardaloedd y mae'r Gymraeg yn iaith lafar feunyddiol ynddynt.

Nid oes a wnelo hyn â gallu'r naill fudiad neu'r llall, ond yn hytrach, â'r modd y sianelir cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd.

Mae'n gefnogol i'r chwith cenedlaethol gyda chysylltiad gyda'r glymblaid Herri Batasuna, sy'n rhoi llais gwleidyddol i fudiad milwrol ETA.

Franco yn dienyddio pump aelod o fudiad ETA o Wlad y Basg, ond yn marw ddau fis yn ddiweddarach a'r Brenin Juan Carlos yn dod yn ben ar y Llywodraeth, hyn yn arwain at ailsefydlu democratiaeth yn Sbaen.

Rhoes y golygydd, a gymerai gymaint o ddiddordeb yng ngorffennol byw ei fudiad, gyfle i'w ddarllenwyr gael golwg ar gynnwys rhyfeddol dyddiaduron pwysig fel eiddo Evan Humphreys, Pen-lôn; John Jenkins, Glynmeherin; Gwilym Marles,i Llwyn, a John Thomas o Landysul.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Credaf i hyn ddylanwadu'n drwm, efallai'n drymach na dim arall, ar y Blaid, ac ar Undeb Cymru Fydd ac i Gwynfor genhadu'n egni%ol dros fudiad ar yr un llinellau yng Nghymru.

Roedd y cyfieithydd yn gwybod, ond roedd e'n gwrthod dweud wrtha'i!' Yn y diwedd, daeth cynrychiolwyr o lywodraeth Iran ac o fudiad y Red Crescent.

Go brin bod y Gymdeithas yn haeddu'r disgrifiad o fod yn fudiad torfol ar unrhyw adeg yn ystod ei bodolaeth.

Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.

Gyda dyfodiad y Cynulliad y mae mwy o alw nag erioed am fudiad cryf i sefyll dros hawliau ieithyddol a chymunedol Cymru a Chymdeithas yr Iaith yw'r unig fudiad sy'n ymgyrchu'n radicalaidd gyda phobl a chymunedau Cymru.

Gwelir, felly, yn fwyfwy yr angen am fudiad CYD, sy'n cynnig y cyfle i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol trwy ddod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Aeth Ben â ni trwy'r gwahanol ddulliau ymgyrchu a ddefnyddiwyd gan Jiwbili 2000, ac er ei bod yn fudiad o fath gwahanol i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, roedd nifer o'r pwyntiau yn berthnasol i'r ymgyrch dros ddeddf iaith.

Gwelodd Cymru fod hwn yn fudiad a oedd yn fodlon gweithredu yn ogystal â siarad.

Cyfeiriad at fudiad yn y Senedd i ddiwygio'r Eglwys Sefydledig oedd hyn.

Efallai eich bod yn credu fod y Gymdeithas yn enghraifft o fudiad protest hynod lwyddiannus oedd yn llwyddo yn ei hamcanion drwy gyfuniad o ddulliau cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol.

Trefnwyd yr wylnos nos Fawrth gan fudiad Cymorth Merched Cymru sy'n rhedeg y lloches yn Llangefni.