Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fuse

fuse

Yr oedd yn ofynnol i'r sawl oedd ar y graig fod yn o ystwyth i danio'r fuse a dringo i fyny i ddiogelwch, ac yn ddisymwth dyma'r ergydion yn dechrau mynd allan.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Ar y ail chwythiad o'r corn roedd pawb yn tanio'r fuse ac yn mynd yn bur frysiog at y dynion eraill i wardio.

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

Wedi oedi am beth amser mae'r ddau'n mynd yn araf deg at y twll, ac yn gweld mai wedi torri yr oedd y fuse.

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.