Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwg

fwg

Wrth iddi agor ei llygaid gwelodd bod ei llofft yn llawn o fwg.

'Roedd y dafarn yn rhwydd lawn, o bobl, o fwg, o sŵn, a'r ffenestri'n ager i gyd gan iddi fwrw drwy'r dydd.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

O gael ei rhyddhau ar brawf o garchar maen fwg ac yn dân dros wneud popeth i'w hamddiffyn - yn bennaf trwy dywallt arian i gartref cwn y mae Kevin Shepherd (Ioan Gruffudd) yn ei redeg.

Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.

Bom mwg oedd ef, a chyn gynted ag y ffrwydrodd ef amgylchynwyd y golgeidwad gan fwg.

Yno, yn llithro o dan ddrws y gegin roedd ychydig bach o fwg.

Y mae caniata/ u i fwg ein ffatrioedd wenwyno'r awyr a dad- ddeilio'r coed ac i'w helifiant lygru'r afonydd yn drosedd yn erbyn y Creawdwr.

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

Ac wylo amdani a galaru drosti hi y mae brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuont fyw yn foethus gyda hi, pan welsant fwg ei llosgiad hi.

Wrth iddo edrych i fyny dyma Iolo'n gweld y to teils a'r simnai 'ni fagai fwg'.

Wrth deithio'n ôl, sylwais ar fwg hyd y llechweddau o amgylch, lle'r oedd ffermwyr yr ucheldir yn llosgi hen dyfiant o wellt a rhedyn crin a bonion grug ac eithin.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Blwyddyn newydd ddrwg A llond tū o fwg.

Yn hanes Maelgwn dallwyd ef a'i wŷr gan golofn niwl a aeth gyda Chadog, ac yn hanes Rhun fe'u dallwyd gan fwg a godai o ysgubor y ceisiai gwŷr Rhun ei llosgi.

Rhoddodd Lisa'r tecell ymlaen a chwilio am ddau fwg crochenwaith.

Prin y medrai weld y gongl bellaf gan fwg sigaret a stêm.

Ac yn sydyn nid oedd dim ar ôl o'r Ffantasia ffug ond colofn o fwg du yn chwyrli%o i'r awyr.

Dyna chi,' meddai, gan sodro ei fwg coffi wrth ochr ei hun hi.

Dyn oedd Gruffydd Parry a rannai ei grystyn olaf â thlotyn yn llawen dros ei Feistr, a bydd llawer a'i hadnabu yn ei nerth a'i ysbrydolrwydd llachar yn barod i'm blingo'n fyw am i mi chwythu'r whiff annuwiol yma o fwg baco dros bêr-arogl ei enw, mi wn.

Agor drws y gegin, a'r unig beth welwn i oedd cymyle du o fwg.

Maent yn credu ei bod yn anlwcus mynd i fewn i'r car ar yr ochr lle mae'r bibell fwg, os mai dim ond un sydd ar y car.