Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwlch

fwlch

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Camodd drwy fwlch yn y clawdd drain yn gap stabal i gyd, a hen sach dros ei war.

Yr oedd yn wr a'i fryd ar y pethau a gadawodd fwlch ar ei ôl nas llenwir yn rhwydd.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel ei hun llwyddodd y Blaid i gyhoeddi, nid yn unig ei dau bapur misol yn ddi-fwlch, ond hefyd dri ar ddeg ar hugain o bamffledi.

Nid oes wybodaeth ar gael am yr ugain mlynedd nesaf, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yno yn ddi-fwlch.

Sylwodd Geraint fod yna ffenestr, neu yn hytrach fwlch bychan a barrau haearn yn ei gau, yn y wal rhwng yr ystafell lle'r oedden nhw a'r nesaf ati.

O ddilyn yr hen ffordd ymlaen o Fwlch y Clawdd Du ac ar i waered am Ryd yr Hengae ar afon Claerwen bydd adfeilion hen dy yr Hengae i'w gweld yr ochr draw i'r afon.

Ioan Bowen Rees, Dau Fwlch

Yn fuan wedi i greigiau Blaen Rhestr ymddangos ar y dde bydd y ffordd yn plymio'n sydyn i ryw bantle cyn ailgodi'n serth yr ochr draw; dyna Fwlch y Clawdd Du.

Ar Fwlch y Rhiwgyr y bu hynny, wrth fynd o'r Bermo i'r Bont-ddu ar hyd Llawllech.

Troi'n ôl i Fwlch y Clawdd Du a cherdded tua'r gogledd i olwg Llyn Cerrig Llwydion Uchaf, yna, heb golli uchder, gwyro fymryn i'r dde i gyrraedd Llyn Cerrig Llwydion Isaf.