Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwlgat

fwlgat

Nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt droi at y Tristan en Prose, er bod fersiynau diweddar o Gylch y Fwlgat yn cyfuno'r Tristan hwnnw â hanes y greal,' ac ni adawodd rhamantau cynnar Be/ roul a Thomas' eu hôl ar chwedlau Cymraeg.

Cyfuno deunydd a fenthycwyd o'r Brut ac o ramant Ffrangeg, y Merkn en Prose (rhan o Gylch y Fwlgat) a wnaeth awdur anhysbys y testun a adwaenir heddiw fel 'Genedigaeth Arthur', er enghraifft, ac a gadwyd yn llsgr.

Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

Adlewyrchir hyn yn y galw mawr a fu am lawysgrifau'n cynnwys y Fwlgat.

Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.

Er bod y Queste ei hun wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg, (fel rhan gyntaf Y Seint Greal), ac er bod Cylch y Fwlgat wedi bod yn hynod ddylanwadol ar destunau rhyddiaith Arthuraidd Cymraeg, nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fod yn gyfarwydd â'r Tristan en Prose Efallai mai ei anwybyddu a wnaethant, oherwydd y mae lle i gredu mai fersiwn o'r 'Post-Vulgate Queste', sef y fersiwn lle ymgorfforwyd hanes Tristan, a ddefnyddiwyd gan gyfieithydd Y Seint Greal.