Aed ati felly i sicrhau consensws wrth baratoi'r strategaeth, a gwnaed ymdrech fwriadus i gyflawni hynny yn y broses ymgynghorol.
Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.
Profwyd bod creu ethos Gymraeg fwriadus sy'n adlewyrchu gwerthoedd y diwylliant Cymraeg ar ei orau yn arwain at hinsawdd gefnogol o fewn cymuned yr ysgol (ar ran rhieni, disgyblion ac athrawon) yn ogystal ag ysbryd o genhadaeth.
Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.