Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwstas

fwstas

"Gwbod beth, Cyrnol?" "Na, wrth gwrs, fedrech chi ddim gwbod, a chithe yn Llunden!" Gwenodd y Cyrnol gan grychu ei fwstas bach, melyngoch, trwsiadus.

Roedd gan y swyddog fwstas twt, du, imperialaidd, llygaid du, poeth a chaled fel y glo, a golwg cyffredinol dyn y byddai'n talu i gyd-dynnu ag o.

Yn wir, y mae rhestr meddygon y cylch wedi bod yn un dra urddasol, yn eu plith Dr Rowlands a'i fwstas deubig, Dr Black, Dr Kyle a Dr Prydderch.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Roedd ganddo fwstas melyngoch, llygaid gleision a gwisgai sbectol gwasgu-trwyn.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !