Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwya

fwya

Cystadleuaeth fwya' y cwmnïau yma yw'r trenau intercity, mae teithio ar drên yn Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen yn rhad, effeithiol a chyflym.

Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!

Y nifer fwya o Gymry yn y garfan er 1980.

Nid Savarese na Romo ond Morus wnaeth yr argraff fwya ar y Vetch neithiwr.

Deg dyn yn unig oedd gan Abertawe am y rhan fwya o'r gêm.

Yr amheuaeth fwya yw a fydd John Robinson yn medru chwarae.

Mi ddaru Defi John ddringo i nôl rhai, i gael gweld, ac wedi i ni'u cracio nhw'n 'gorad hefo'm dannadd, doedd yna ddim byd ond rhyw ddotyn bach gwyn, meddal, yn y rhan fwya ohonyn nhw.

Daeth y Cymry, nad oedd neb yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw, o fewn hanner at greu y sioc fwya mewn unrhyw gamp erioed.

Y clown 'nes i fwynhau fwya - mi oedd o'n baglu dros ei draed a phetha felly, ac mi ddaru o bwyntio ataf fi, a gofyn i mi be' o'dd fy enw fi.

Tenau yw plot y nofel ac mae'r rhan fwya' o'r llyfr yn ceisio crynhoi gwahanol safbwyntiau a daliadau ynglŷn â'r ymgyrch losgi.

Fyddai yna ddim effaith ar y rhan fwya' o fysus na gyrwyr ar fe allai gymryd blynyddoedd cyn dod irym.

'Diffyg creu yw'r broblem fwya ond ro'dd hi'n dda gweld ni'n sgori ambell gais ddydd Sadwrn dwetha.

Rhaid i ni gofio bod rhan fwya o'r tîm yn whare rygbi yn Seland Newydd ac er nad ydyn nhw'n whare gêm yn rhyngwladol - mae'r unigolion yn whare rygbi o safon uchel iawn.

Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.

Amser cinio cyn y gêm yn erbyn Lloegr cawsom y bregeth fwya tanllyd y gallech ddychmygu ganddo.

Po fwya' y syllwn i ar y ddaear, y mwyaf o olion y trueiniaid oedd yno darnau o'r sgarff draddodiadol, sandalau, crib, yn dal i orwedd lle syrthion nhw'r nosweithiau hunllefus hynny.

Wn i ddim ar y ddaear pwy ydyn nhw'r rhan fwya; wyrion efalla erbyn hyn, i rai yr oeddwn i'n gybyddus â nhw amsar maith yn ôl.

'Mae'r Beibl yn deud, 'Trwy eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt', ond trwy eu motos yr ydw i wedi 'nabod rhan fwya', meddai.

Cafwyd sioc fwya rownd gynta Cwpan Lloegr yn Nuneaton neithiwr wrth i'r tîm cartre, sy'n chwarae yn y Cynghrair Conference, guro Stoke o Ail Adran Cynghrair y Nationwide.

Mi roedd y rhan fwya'n mynd i aros yno nes y bydden nhw'n cael y rhyddid yr oedden nhw'n gwybod fyddai'n dod.

Ond drannoeth, mi es i brofedigaeth - mi gollais fy mhysan, - a hynny yn y dre, lle y basach chi'n meddwl y baswn i ei hangan hi fwya.

Eu hwyl fwya' nhw ar yr adag hon o'r flwyddyn oedd marw!

Y bobol dduon, ran fwya, syn chwarae pêl-droed.

Ar ôl amddiffyn teitl pwysau uwch-ganol y WBO am yr wythfed gwaith nos Sadwrn, fe allai Joe Calzaghe fod ar drothwy'i ornest fwya erioed - gyda Roy Jones Junior, pencampwr byd y pwysau is-drwm.

Cafwyd y gem fwya dramatig yng nghystadleuaeth Euro 2000 neithiwr - gêm gyfartal Iwgoslafia a Slovenia.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.

"Os na 'dwy'n methu'n arw mi fydd y rhan fwya o'r celfi yn 'u lle yn barod i chi.

Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.

Bydd pob chwaraewr yn cael adroddiad personol gan Graham Henry a bydd y rhan fwya - os nad pawb - yn cael eu gwahodd i ymarfer gyda'r brif garfan dan ofal Peter Herbert yn hwyrach yn yr haf.

Erbyn i ni fod yno, roedd mil o bobl wedi'u lladd, y rhan fwya'n Balestiniaid, wrth i fechgyn ifanc a llanciau daflu cerrig a bomiau petrol at filwyr Israel a chael eu saethu am eu gwaith.

Yn safle'r maswr mae'r broblem fwya.

Yn wir nid gormod ydi dweud i'r rhan fwya o'r chwaraewyr gael eu synnu gan ei agwedd hollol benderfynol a sicr.

Y maent yn chwilio am y ffordd rataf i gyflwyno addysg gyffredin i'r nifer fwya o'n plant, tra bydd eu plant hwy yn derbyn yr addysg orau yn ysgolion bonedd a phreifat y wlad yma!

Fodd bynnag, mae'n ffaith hefyd fod y rhan fwya' o rhai ifainc sy'n cael eu geni yn y gaea' yn marw yn fuan oherwydd gerwinder y tywydd a diffyg bwyd.

Digon dweud iddo fod yn bencampwr yr holl fridiau yn Crufts, sioe gwn fwya'r byd, ddwywaith yn ystod y degawd dwetha.

Roedd torf o 13,602 yn gwylio'r gêm - torf fwya'r drydedd adran y tymor hwn.

Mae Watkins wedi chwarae ar yr asgell y rhan fwya o'r tymor.

Dros y blynyddoedd, fe ddechreuodd rhai - y rhan fwya' ohonyn nhw yn gyfranwyr i'r gyfrol hon - arbenigo a magu profiad mawr mewn gwaith o'r fath.

Yr oedd Haughey yn arweinydd plaid fwya'r wlad, Fianna Fail, ac yn taoiseach - Prif Weinidog - am gyfnod yn ystod yr wythdegau.

Gwelodd sawl newid yn ystod y cyfnod hwnnw: "Y rhan fwya' er gwaeth mae gen i ofn.

Mae Airbus yn mynd ymlaen i adeiladu awyren fwya'r byd, efo'r adennydd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.