codwch fwyn gyfeillion O!
codwch fwyn gyfeillion I agor drws i ni.
Syniad Merêd oedd yr ail fis mêl ac roedd Dilys yn ymddwyn fel pe bai wedi penderfynu diodde'r peth er ei fwyn ef.
Ymhlith goblygiadau'r ffydd hon y mae'r wybodaeth fod i ddyn bwrpas, fod i'r greadigaeth nod a bod trefn ac ystyr yng ngwead ein bodolaeth: 'Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll' (Col.
Roedd o'n rhyfeddol o fwyn, ond yn feddw fawr - a phryd hynny y byddai berycla.
Tros yr iaith ac addysg, er enghraifft, mi ddangosodd Wyn Roberts yn glir sut y mae hynny'n gweithio - cân di bennill fwyn i'th nain ac, os enw'r nain honno yw Dafydd Elis Thomas, mi ganith hithau'n berlesmeiriol i tithau.
Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.
Daethpwyd i ymddiddori yn y gorffennol er ei fwyn ei hun, daethpwyd i astudio dogfennau, daethpwyd i grynhoi 'ffeithiau', ac i ddilorni cynlluniau dwyfol a chwedlau dynol.
"Does dim ond isio i ti edrach ar Groeslon y King," medda fo, "i sylweddoli beth maen nhw'n neud yn y fan honno er dy fwyn di." "Gwrandwch," medda finna.
Ond nid arbrofi er ei fwyn ei hun mo hwn; yn hytrach yr arbrofi hwnnw gyda dulliau dysgu sydd yn golygu fod y plentyn yn cael mwy o gyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun a thrwy hynny yn dod yn fwy annibynnol yn ei ddysgu; yr arbrofi hwnnw sydd yn sicrhau fod athro'n cael gafael ar y gymysgedd addas rhwng dysgu athro ganolog a dysgu plentyn ganolog.
A chyda golwg ar ein hanes, ni charodd neb hwnnw chwaith er ei fwyn ei hun, 'except in so far that history might be skilfully handled to show the awful consequences of Popery'.
(Nid er ei fwyn ei hunan...