Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwynhad

fwynhad

Unai maen nhw'n rhy hawdd ac yn ymylu ar fod yn blentynnaidd eu hiaith a'u stori, neu maen nhw'n or- uchelgeisiol ac mae unrhyw fwynhad o'u darllen yn cael ei golli yn yr angen i chwilota mewn geiriadur bob yn ail gair.

'Doedd o ddim yn cael cymaint o fwynhad yn y dyddiau olaf fel actor.

Nid oes le i gredu i'r un gof wneud ffortiwn ariannol, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt fwynhad yn eu gwaith drwy wasanaethu'r gymdeithas wledig yn ufudd ar bob adeg.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Darn bach.' Fel y proffwydasai Ap Menai, tynnodd wyneb - ond wyneb o fwynhad digymysg.

Yr oedd hefyd braidd yn amheus ei moesau, gan ddifyrru mwy nag un cariad ar y tro - nid, meddai hi, am ei bod yn mwynhau'r gyfathrach ond am ei bod yn rhoi'r fath fwynhad i'w chariadon!

Ond mynnu mynd yn ei flaen wnaeth Merêd; ni chredai y deuai'r glaw'n fuan - ni fynnai gredu hynny gan gymaint oedd ei awydd i sugno'r diferyn eithaf o fwynhad o'r profiad hwn.

Cadwodd ei gartref yn Sir Benfro a dyna fwynhad oedd cael mynd gyda'n gilydd i aros yno adeg gwyliau'r ysgol.

Wele awdl a phryddest a roes imi lond calon o fwynhad ryw ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach.

Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn.

Mae'n ddiwrnod o fwynhad llwyr i'r teulu, yn llawer llai blinedig na'r Sioe Ceir ac yn gyfle amheuthun i weld y diweddaraf mewn modelau newydd ac ategolion o bob math.

Ond wedi dweud hynny, mae yna fwynhad i'w gael o dreulio diwrnod ar lan y môr, a chyfle i ail-fyw ambell bleser o'ch plentyndod coll.

Pan gefais fy hel gan fy ngwr i'r llofft i ddarllen y llyfr (yn debycach i dad yn fy siarsio i wneud fy ngwaith cartref), gwnes hyn ag ebychiad ac yn ddi-fwynhad.

Ond tybed ai dyma'r unig fwynhad a gâi'r darllenwyr wrth flasu'r stori hon (a ymddangosodd gyntaf yn Seren Gomer) am ddrychiolaeth go gnawdol ei dueddiadau:

Pan yn blant ni chaem lawer o fwynhad yn Seiat yr oedolion.

Yr oedd yn ddarllenwr brwd ac yn hanesydd naturiol, a byddai ymweld â chartrefi Cymru yn fwynhad pur - mangre geni John Pugh yn New Mills, beddrod Ceiriog yn Llanwnnog; Gregynog, cartref wyresau David Davies Llandinam; a chael caniatad y Dr Glyn Tegai Hughes (y pryd hynny) i weld y gerddi hyfryd.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.