Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fydda

fydda

Fydda Nain yn gallu rhoi rhywbeth mor syml â brechdan neu ŵy i ni efo mwy o haelioni, a byddem yn teimlo ein bod yn cael rhywbeth arbennig.

'Ylwch be gawson ni gan Bigw.' 'Brensiach annwyl,' fydda Mam yn ei ddweud ac yn cymryd y prês oddi arnom yn syth yn barod i'w roi yn ôl i Bigw tro nesaf.

Mi fydda aelodau eraill llys Montezuma, hwythau, yn yfed rhyngddyn nhw lond dwy fil o gwpanau aur o siocled.

"Fydda i byth yn lecio gwisgo dim ar Iol neb, y...

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

"Cymrwch," medda fi, "fy mod i allan ar noson dywyll, a bod yna rywun yn intyffirio hefo fi - rhyw hen genod drwg neu rywbath felly - caniata/ u fy mod i'n gallu cadw fy nwylo i mi fy hun, mi fydda i'n chwythu hon, ac os y clywch chi hi, mi fydda i'n disgwyl i chi olwng pob dim a rhedag ata i."

Os bydda ganddo fo stori newydd, mi fydda ar y ffôn - "Glywaist ti hon?" neu, "Dwi isio mynd i lle ar lle heno, sgin ti rwbath i mi?" Mae llawer yn gwybod iddo deimlo i'r byw na chafodd arwain y 'Steddfod Genedlaethol.

'Mi fydda i'n meddwl lawer am sut y buaswn i'n ymateb i'r sefyllfaoedd yn y sgript taswn i yn yr un sefyllfa, er yn aml iawn ni fu+m i erioed yn y fath sefyllfa, wrth gwrs .

'Fydda i ddim yn meddwl amdanyn nhw fel llefydd segur, ond fel llefydd byw a diddorol iawn yn eu ffordd eu hunain'.

Ffoniwch fi yma yfory, mi fydda i wedi cael gair efo'r cofrestrydd.'

Llwyddes i ffeindio Craig drw fy mowyd." Ymlaen wedyn: "Wen i'n darllen y Beibl drwddo o'r dechre i'r diwedd pan wên i ar y môr ond nawr fydda i yn cadw at y Salme a'r Testament Newydd.

Mae'na rai fydda'n rhoi'r byd am gael bod yno i'w gweld nhw'n mynd trwy'u petha." "Ond wnawn i ddim aros i'w gweld nhw wrthi." "Na 'newch?

Wedyn, mi fydda'r hen bwll yn mynd yn llyn mawr.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

Mi fydda i'n un sy'n licio gorsafoedd petrol.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddþad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tþ Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

A Gwen, fe fydda i'n falch o gael eich barn fel merch ar y newidiade i gyd -' Hi!

Neu'n aml, mi fydda i'n cael cyfle tra'n gyrru - dwi'n gweld hynny'n ffordd dda o'i wneud o hefyd.

Mi fydda i'n licio cyfarfod pobl a chael sgwrs efo hwn a'r llall.

'Pan fydda i wedi sgrifennu englyn mae'r hen demtasiwn yna, i ffonio fe a gofyn ei farn.

Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...

Fydda i ddim yn un o'r rhai a fydd yn ei golli.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

'Mi fydda' i wedi'i saethu.

Mi fydda nhw mae'n debyg yn mynnu cael peth o'u ffordd eu hun - dwad a'r gitar yn lle'r organ, pethau fel hyn.

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Mi fydda aros yn Nulyn, hyd yn oed, wedi bod yn well.'

Fe fydda i'n ddigon cysurus yn cysgu ar y soffa.

Wedi ffiasco'r anialwch a'r siwtiau haearn, fydda fo ddim yn betio llawer ar y posibilrwydd.

Bob blwyddyn, mi fydda i'n mynd ar ryw fath o bererindod yn ôl i weld y tŷ lle cefais fy ngeni.

(ac ni fydda' i byth yn diraddio'r gair Bendigedig 'na).

`Rydw i wedi blino.' `A finne,' meddai Debbie, `Fe fydda i'n falch i ...' Ni chafodd gyfle i orffen yr hyn yr oedd hi'n mynd i'w ddweud oherwydd gwthiodd dyn heibio iddi, gafaelodd yn y bag arian a rhedodd lawr y stryd.

Pan fydda i'n sgwennu hwn gartra, mi fydda i'n medru edrach allan drwy'r ffenast, a gweld yr haul yn mynd i lawr, a dibynnu beth fydd 'i liw o, a lliw yr awyr, mi fydda i'n dyfalu sut ddiwrnod fydd hi fory.

Ond fydda fo byth yn rhedeg ei gyd actorion i lawr.

Fydda i'n licio mynd 'nôl i Port ar wylia - gweld fy rhieni a ffrindia, a chael brÚc bach - ond famma dwi'n licio byw.'

Ond os bydda i'n chware fe fydda i'n rhoi cant y cant a rwy'i wastad yn falch o wisgo'r crys coch.

Ond fydda hi ddim yn addas i Hil y Meistri lafurio pan mae hiliau israddol, gyda'r galluoedd angenrheidiol, ar gael.'

Mi fydda i yn 'i deimlo fo weithia fel cwmwl du yn bygwth fy mygu.

Mi fydda i'n câl llawar o blesar efo'r rhai acw.

Efallai bod rhai ohonoch yn digio yn awr: eu helpu nhw fydda'i, meddech chi, dweud wrthynt am gelfyddyd fy ngwlad, dydw i ddim yn sathru ar neb na dim.

Fydda i'n gwneud hynny'n aml, gwario prês, ac yna ystyried ydi o gennyf i'w wario.

Mi fydda'i'n credu bod yfed dy ddþr dy hun yn beth iachusol, wyddoch chi - wel, mi rydwi'n ei gael o'n rhatach yn tydw?

Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.

Cofiwch, fydda i ddim yn gwneud hyn ond yn nhywyllwch nos - rhag ofn i'r cymdogion amau mod i'n dechrau drysu!

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

Mi fydda hi yma lawar efo'r hen bobol.

Mi fydda i hyd yn oed yn siarad efo peiriant twll-yn-wal weithiau.

'Mi fydda innau'n edrych ymlaen,' meddai'n ddistaw awgrymog.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Mi fydda hi wedi licio cael rhoi bloda ar fedd Harri, ond chafodd hi erioed weld bedd ei brawd.

Mi fydda fo'n haws i mi wneud ond rhaid i mi beidio.

Chi'n gweld 'roedd 'y nhad yn fwy doniol adra, nid yn unig am y ffaith ma' ni fel teulu oedd yn clywed y jôcs gynta' (a chlywed pob un, nid y rhai dethol), ond 'roedd nhad yn ffraeth ei dafod beth bynnag fo'r sefyllfa, does dim pryd bwyd wedi mynd heibio, na fydda nhad wedi dweud, neu wneud rhywbeth doniol.

Mi fydda i'n meddwl yn sobor weitia, i beth mae rhywun yn talu trethi.

Mi fydda i'n licio'r stwna yma ef o ceir.

ond fe fydda i'n ei weld e bore fory.

(Ond ni weithiodd y washar rioed yn iawn ar y tap ym mhenglog Gruff neu mi fydda fo'n gwneud mwy na dim ond cwyno am hanner awr wedi dau y bore fod y papura bach arian yn pigo'i hen benôl o).

Mi fydda'n well gen i fod wedi cal mynd i wlad boeth ac aros mewn gwesty mawr.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Os bydd niwl neu law mân, mi fydda i'n stopio ar ben y mynydd a dangos yr ardal iddynt.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Mi faswn i wedi disgwyl i un o'r staff o leia' holi 'helô, pwy ydach chi?' Mi fydda' i'n mynd yn ôl atyn nhw a holi pam fod hyn wedi digwydd.

Mi fydda i'n ddeugain ymhen rhai misoedd ac yn cael ychydig ar y naw o ymarfer corff, i'r fath raddau fel fy mod i wedi dechrau cerdded milltir neu ddwy bob nos er mwyn ceisio cadw'n fwy heini.

Yna, mi fydda i'n gwneud sŵn bara llefrith ar 'i ferw blyb .

Fydda i BYTH yn tisian, Carwenna.

'Mi fydda i'n cael dipyn go lew o waith theatr, a dwi'n gweithio ar fersiwn deledu o'r ddrama Leni ar hyn o bryd.'

"Ond mi fydda i wedi bod yn y dŵr am bedair awr a hanner erbyn hynny, ac fe gymer yr un faint o amser i hwylio'n ôl i chwilio amdana i.

Er bod job hir a digalon o'i flaen o, mi fydda fo wedi hen orffen ymhell cyn i ddymuniad y sloganwr gael ei wireddu.

Gofynnwyd iddo lawer gwaith, 'Pam mae'n rhaid i chi gael rhegi bob yn ail gair, Francis?' a'i ateb pendant fyddai, 'Fydda i byrh yn rhegi, tydi'r ddau air rydw' i'n eu hiwsio yn ddim ond g¨iriau llanw, tydy' nhw'n golygu dim, ac mae'r ddau i'w cael ble mynnoch chi yn y Beibl.'

Fydda i ddim yn hir.'

Pan ymwelodd Cortez Fawr â llys y Brenin Montezuma - un arall fydda'n gorfod byw heb ei swpar tasa fo'n byw yn tþ ni - gwelodd fod hwnnw'n yfed hanner can cwpanaid o siocled y dydd.

'Weithia, bydd eraill yn golchi 'nillad i, a mi fydda i yn smwddio iddyn nhw, ac yn y blaen.

Dangoswch focs o jocled i mi ac mi fydda i tu mewn iddo fo yn gynt nag y medar Joan Collins ddaffod balog.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

Mae'r passes yn dal gen i ac mi fydda' i'n edrych arnyn nhw o dro i dro.

Fydda'i ddim yn swnio fel pe bawn yn busnesu wedyn." Troes Breiddyn wrth godi o'i sedd, a'm gweld.

Ffugio bod yn fyddar ac yn ddwl a gwrando ar bob si yn y fangre dlodaidd honno!" "A thra byddi di yno, Gwgon, mi fydda' innau yn gyrru'r ias i gerdded ac yn dilyn trywydd yr amserau." "Siort ora' Elystan, ond wnawn ni'n dau byth sbi%wyr fel Cellan Ddu.

Y gwir ydi mai ychydig iawn o jôcs fydda i'n eu gweld yn ddigri.

'Fe fydda i'n mynd nawr mewn munud.'

"Fydda i ddim chwinciad yn trwsio hon," meddai.

Ond, bydd mam yn galw arnaf i bob amser a'r cwbl fydda' i'n 'neud fydd gwneud sŵn fel bara llefrith yn berwi.

Gan nad oedd gennym ni drydan, 'doedd gennym ni, felly, ddim teledu, er mewn noson lawen mi fydda nhad yn dweud fod gennym ni un, a honno'n gweithio efo cannwyll.

Wedyn, mi fydda' i'n gwneud sŵn blyb .

Os bydd eisio mwy na hynny, mi fydda i yno wrth d'ochor di.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

'Mae 'na dipyn i'w wneud eto,' meddai, 'ond mi fydda i'n falch o rhywbeth i'w wneud pan fydda i allan o waith', a dyna wrth gwrs, ydy natur bywyd yr actor.

Os nad oedd gen i broblema merchaid cyn cyrraedd mi fydda i'n gonyndrwm o gnawd ar ôl disgwl fy nhwrn.

'Mi fydda i'n hoffo fynd i redeg, a dwi'n ffendio'r adegau hynny yn fuddiol iawn i feddwl am y peth.

Fel un na welodd ond cwta ddwy bennod o'r gyfres Big Brother fydda i ddim yn siomedig o weld y gyfres wirion yn dirwyn i ben.

Fydda hi'n dda, tae'r Cynulliad yn gyfrifol am ddarlledu, iddyn nhw allu gwneud rhywbeth am hyn.

Mi fydda'i 'di colli hwnnw'n munud a fynta'r cynta'r wythnos yma.' Safodd a'i ddwylo ar ei gluniau'n gwylio PC

Siapa hi, neu fydda i'n achwyn wrth dy fam!' 'Sai'n teimlo'n dda ...

Os clywaf ar y radio fod heddwch yn teyrnasu yng Ngogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol a mannau eraill yn y byd, fe fydda' i fel Tomos yn amau'r ffaith, er mai dyna fy ngobaith a'm dymuniad.

'Mi fydda inna'n lecio ca'l dechra godro'n gynnar dydd Sadwrn,' meddai ffermwr arall.

'Doedd pob plentyn yn cael sanau glân bob dydd, ac er fod y nhad yn gwneud jôc am bob math o bethau, fydda fo byth yn gwneud jôc am blant bach diniwed.

Pan oedd ganddo amser sbar mi fydda fo'n mynd i weithio ar y tir.