Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyddan

fyddan

Ta pwy fydd yn chwarae i Samoa fe fyddan nhw'n galed iawn, meddai ar y Post Cyntaf.

Prin iawn yw'r gwylwyr a allai wahaniaethu rhwng milwyr Irac a milwyr Syria pan fyddan nhw yn llechu yn y tywod.

Roedd yna griw da o fechgyn yn y Felinheli - wyth neu naw ohonom ac mi fyddan ni'n mynd i ffwrdd am reids i bob rhan o'r wlad ...

Ond mae cytundebau nifer o chwaraewyr yn dod i ben ddiwedd y tymor a mi fyddan nhw'n awyddus i greu argraff.

Fe fyddan nhw'n gwybod ai ffrwydryn yw'r parsel.' Cyn bo hir roedd pobl yr ystad yn Longstanton yn cael eu symud o'u tai.

Mi fyddan nhw'n pwysleisio fod gwerthiant dur i wledydd tramor wedi gostwng 10% yn ystod y misoedd diwetha - a hynny oherwydd bod gwerth y bunt yn rhy uchel.

Fe gawson nhw lawer mwy o gyfleon ac fe fyddan nhw'n siomedig â safon cyffredinol eu gorffen.

`Maen nhw'n dal i edrych y ffordd arall.' `Fyddan nhw ddim yn hir cyn sylwi ar y wifren pan fyddan nhw'n troi yn ôl drachefn.' `Rwyt ti'n iawn.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

Pan fyddan nhw'n cyrraedd y porthladd bydd y cotiau'n cael eu gwerthu i wneud cotiau ffwr drud i wragedd.

Ac mae'r diffiniad yna'n bwysig, achos mi ddaw y dydd pan fydd y Bwrdd Iaith ayyb yn galw am hunan-lywodraeth, pan fyddan nhw'n sylweddoli y ca'n nhw lawer mwy o fudd o gael ei rheoli gan Senedd Gymreig.

Yn aml, dyfais wrth gefn yw camerâu i ddatrys pethau pan fyddan nhw'n mynd o le ac fe fyddai person penderfynol yn gallu torri tagiau neu gael cerdyn adnabod.

Mae clwb Lazio wedi dweud na fyddan nhw'n rhwystr os yw Eriksson yn dymuno bid yn rheolwr tîm pêl-droed Lloegr.

`Pan fydd y plant yn gorffen fan hyn, fe fyddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadol ac fe fyddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Fyddan ni fawr o dro yn rhoi stop ar ei gastiau o.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Os ceir Lewis yn euog mi fyddan nhw'n cau'r ffeil a fydd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn rhedeg ar ôl rhyw jacolantern.' 'Ond sut fedran nhw ddeud bod yr achos wedi'i gau a dau leidr â'u traed yn rhydd?

Bydd siroedd y Bencampwriaeth Griced yn mynd i Lords heddiw i weld faint o arian fyddan nhw'n ei dderbyn y tymor nesaf.

Mi fyddan nhw'n dod yma i fynd â chdi i ffwrdd hefyd os na fyddi di'n ofalus ar y naw." Y darn o'r prom oedd yn ymestyn cyn belled â'r cwrs golff oedd y darn gafodd Joni i'w chwilio.

Os na fyddan nhw'n siwr fe allan nhw fynd 'nôl at y pwyllgor mawr.

Cofiwch gymryd y cam nesa efo'r ddwy ohonyn nhw pan fyddan nhw yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bae Colwyn yn y dyfodol agos.

Mi fydd yna lawer o Aelodau Seneddol - gyda mwyafrifoedd baychain - yn edrych yn betrusgar iawn ar y ffigurau hynny ac mi fyddan nhw'n beryglus iawn os fyddan nhw'n teimlo dan fygythiad.

Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.

Mae fyny i ni wneud yn siwr na fyddan nhw'n dod i wylio gemau Chelsea yn y dyfodol, meddai.

Pan fydd hogiau Slip yn teithion bell i chwarae gig, mi fyddan nhw'n chwarae gêm i'w cadw nhw allan o ddrygioni.

Mi fyddan mor glên a gofalus ohonoch chi mi wnân nhw estyn y celfi i chi i wneud hynny.

Er, mi fyddan nhw'n siwr o fod yn fwy gofalus wrth ddewis nani y tro hwn.

`Fe fyddan nhw'n siwr o wneud yn fuan,' meddai Michael wrth ei ffrind wrth iddo edrych drwy'r ffenestr unwaith eto.

Fyddan nhw byth yn gweithio pnawn Sadwrn i chi.

Os caiff Penybont un fuddugoliaeth yn eu tair gêm ola fe fyddan nhw ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am y tro cynta erioed.

Rwan mi fyddan nhw'n wynebu tîm arall o Sbaen - CD Alaves - yn y rownd derfynol.

Wel mi fyddai'n codi pum punt yr un am fynd â nhw i'r mynydd, ond, fyddan nhw byth yn gweld y 'bobl bach'.

Tasan ni'n cael dipyn o haul mi fyddan yn barod yn gynt.

Fe fyddan nhw'n cnoi ewinedd eto dros y Sul gyda'r ddau dîm am fuddugoliaethau fydd yn sicrhau'r lle ola i'r nall dîm neu'r llall yn Ewrop.

Mae'r ddau glwb yn disgwyl clywed a fyddan nhw'n cael eu cosbi gan banel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Lloegr.

Mae gan Gaerdydd bum blaenwr yn barod a thra bod y clwb wedi mynnu dro a thro na fyddan nhw'n gwerthu eu prif sgoriwr y tymor hwn - Robert Earnshaw - mae'n bosib y byddan nhw'n fwy parod i Leo Fortune-West, Kevin Nugent, Paul Brayson neu Kurt Nogan adael.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Mae Vasas o Budapest yn swnio ... dwin meddwl y gallen ni ei gorchfygu nhw dros y ddau gymal - fyddan ni ddim yn anhapus ou cael nhw.

Ac ni fydd y lliw haul a gafodd ein haelodau o'r Cynulliad yn ystod eu hwyth wythnos o wyliau haf wedi dechrau gwelwin iawn na fyddan nhw'n paciou bwced au rhaw am dair wythnos arall o'r siambr ar gyfer cynadleddau y pleidiau gwleidyddol.

"Fe fyddan nhw'n ein disgwyl ni am hanner dydd." "Popeth yn iawn," cytunodd hi.

Mae Leeds wedi apelio yn erbyn y gwaharddiad, ond fyddan nhw ddim yn gwybod beth fydd canlyniad yr apêl tan ddydd Gwener.

'Pan fyddan nhw'n gorffen fan hyn,' atebodd Ismail, 'byddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadaol, a byddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.