Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyddem

fyddem

Os deuai bwthyn anghysbell i'r golwg a hen wraig, neu gwr a gwraig oedrannus yn byw ynddo, fe fyddem yn canu tu allan a symud ymlaen heb aros am ateb.

Gan fod hon yn fenter newydd fe fyddem yn ddiolchgar o unrhyw gyngor, barn neu syniad newydd.

Byddai'n rhaid datgan i'r heddlu ble fyddem yn aros, a golygai hynny osod ein cyfeillion dan amheuaeth.

Cyn hynny cael ein dysgu fyddem ni, dysgu hanesion a ffeithiau yn fwyaf arbennig.

Petai'r Gynhadledd yn derbyn y cynnig hwnnw'n bolisi, yr oedd rhai ohonom yn rhagweld ymosodiadau na fyddem yn gallu amddiffyn y Blaid rhagddynt, a byddai'n rhaid inni ei gadael.

Crawc fyddem ni yn ei alw.

Ni fyddem yn derbyn yn ein cartrefi luniau teledu o ddigwyddiadau ar gyfandiroedd pellaf y byd eiliadau wedi iddynt ddigwydd.

Gresyn na fyddem ni wedi meddwl am hyn neithiwr.' 'Rhybudd?' meddai Iestyn.

Wrth ymlusgo drwy'r glaw meddyliais y byddai'n od, er hynny, na fyddem yn gweld George byth eto.

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Cyn mynd, rhybuddiwyd fi ynglŷn a'r posibilrwydd na fyddem yn llwyddo i weld neb, pe na byddai'n ddiogel i ni eu cwrdd.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Fe fyddem ni'n gweld rhyw olau cannwyll egwan yn dod o gyfeiriad siop Pollecoff.

Tybiaf mai'r peth mwya pleserus oedd yr adeg hynny pan fyddem yn dawnsio - ddim i'r cyhoedd - ond i'r dawnswyr eraill oedd yno.

O na fyddem ni oll yn medru dod o hyd i ffyrdd tebyg o gael ein syrffedu.

Fe fyddem ni yn talu Clwb Lady Mary Vivien, rhyw dair ceiniog yr wythnos, a'r Lady yn rhoi "bonus" o hanner coron i bob un a cherdyn ganddo, roedd yn help at gael dillad.