Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.
Os medrwch chi gadw wyneb syth yn ystod yr eiliadau nesaf mi fyddwch chi'n haeddu clamp o fedal.
"Naddo," atebodd y ffarmwr yn araf, "ond pan fyddwch chi'n dwad y ffordd yma eto caewch y blwmin giat 'na ar ych ôl.
Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".
fe fyddwch chi'n colli rhywbeth, siŵr o fod.
Siopau disgownt, bwytai Indians di-sglein, tai teras sydd wedi gweld dyddiau gwell - fe fyddwch yn eu pasio i gyd cyn cyrraedd canol tre' Castell-nedd.
Hon fydd yn galluogi'r car i anfon gwefr i fatri'r garafan pan fyddwch yn teithio - sy'n hanfodol os nad oes trydan yn y garafan - ond mae hefyd yn rhwystro batri'r garafan rhag sugno bartri'r car.
Fyddwch chi cystal â dod i'r swyddfa?
Ond, yn groes i'w ddisgwyliad, daeth mab yr Yswain ato, gyda gwên ar ei enau, gan ddymuno bore da iddo, a chan ei annog i deimlo yn hyderus, ac ychwanegodd: `C'lynwch chi fi, Harri, pan ddaw hi'n adeg cychwyn, a mi fyddwch yn all right.
Ni ddylech gael bocs o siocledi bob tro y byddwch yn colli rhywfaint o bwysau, neu fe fyddwch yn ol yn y dechrau unwaith eto!
'Fyddwch chi ddim angan swpar felly?' 'Ga'i damad efo Miss Willias, unwaith bydd yr hwch a finna' wedi landio.' 'Ffansi.'
Be fyddwch chi'n ei weld yn ddigri, tybed?
Fe welwch y bydd y cofnod hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cwblhau eich cynllun gweithredu.
'Unwaith y byddwch chi wedi dechrau rhoi tystiolaeth, ac arfer â chlywed eich llais eich hun, mi fyddwch chi'n iawn.
Cyn bo hir mi fyddwch chi'n awyddus i hyrwyddo talentau creadigol pobl eraill.
Twt, mi fyddwch chitha yn falch o gal tamaid yn barod yn y meinjar 'dwy'n siŵr." "Wel os cyrhaedda' i y meinjar ynte." "Dowch.
Duwcs mi fyddwch mor hapus â dwn i ddim be, unwaith y byddwch chi wedi setlo.
Rydych chi'n gweld Ben, Mererid a Karen ymhob rhaglen, ond dim ond clywed lleisiau Ioan a Rhian fyddwch chi.
Bydd eu cefnogaeth yn hynod bwysig pan fyddwch yn dychwelyd o'ch lleoliad.
A pheidiwch a bod yn ddierth, da chi!' 'Ie, cofiwch nawr - galwch bob tro fyddwch chi'n pasio heibio i'r Llety!
Mi fyddwch yn darllen yn y gyfrol hon, adroddiadau doniol a dwys am Charles Williams, yr actor ddiddanwr a'r cymeriad.
Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.
iv) Defnyddiwch yr handlenni i gau drorau rhag i chwi binsio eich bysedd v) Peidiwch byth â gadael drorau ar agor os na fyddwch chi yn eu defnyddio ar y pryd.
Os darfu i chi gadw cwestiwn Kierkegaard ar eich cof tra'r oeddwn yn siarad, mi fyddwch wedi gweld ei berthnasedd.
Defnyddiwch Copy a Paste i wneud copi o'ch diagram - hwyrach y bydd y copi yn union uwchben y gwreiddiol felly ni fyddwch yn ei weld nes ichwi ei symud.
'dwn i ddim fyddwch chi?" Roedd Laura Elin ar ei deulin ac wrthi'n brysur yn datod ei esgid chwith.
Wel, cawn weld, ond tra fyddwch chi'n disgwyl am ddeunydd newydd, beth am brynur llyfr yma?
Pan fydd eich plant chi, ynghanol y ganrif nesa, yn galw eu plant nhw yn Rocet a Shuttle a phethau cyffelyb fe fyddwch chi'n meddwl am mam.
Pan fyddwch yn mynd allan i fwyta, ceisiwch ddewis seigiau sy'n isel mewn braster a siwgr.
Os ydych yn absennol heb reswm digonol fe fyddwch yn methu'r cwrs.
Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.
Ni ddulid osgoi'r bwydydd hyn yn gyfan gwbl pan fyddwch yn ceisio colli pwysau gan eu bod yn eich helpu i deimlo'n llawn.
Wedyn, os byw ac iach, ac os byddwch chi'ch dau yn dal efo'ch gilydd mi gewch ystyried priodi pan fyddwch chi'n ddigon hen.
Os yw'ch cefnogwyr yn dueddol o gerdded i ffwrdd pan fyddwch yn siarad am wobrau, yna prynwch rhywbeth eich hun.
Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.
Ni fyddwch yn datgelu'r fath wybodaeth (ar wahan i pan fo hynny yn rhan o drefn briodol eich dyletswyddau) i unrhyw berson, cwmni, neu gyfundrefn arall.
Yr hyn yr ydw i yn amheus iawn ohono yw'r athrawon hynny sy'n gwrthwynebu'r syniad yn ddiamod achos mae gen i ofn mai cuddio yn y tai bach y byddan nhw pan fyddwch chi'n chwilio am help i symud cratiau Rover.
Y cyngor gorau y medr neb ei roi i chi yw pwyso arnoch i fynd a rhywun profiadol gyda chi, yn enwedig felly pan fyddwch yn prynu'n ail law.
Mi fyddwch yn teimlo'n well wedyn ar ôl gwneud." "Ddwy flynedd yn ôl i'r haf diwethaf oedd hi .
Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.
Ble mae dechrau sôn pan fyddwch chi'n meddwl am ddylanwadau?
Petaech ymn mynd ar goll cyn hynny ac yn troi'n ôl am Bontardawe, fe fyddwch yn mynd trwy bentre' Bryncoch, cartre' Lewis Davies, awdur y nofel Work, Sex and Rygbi y llynedd.
Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.
Weithiau fel y dywedodd John Simpson, gohebydd profiadol y BBC, mae'n fwy anodd gwybod beth sy'n digwydd pan fyddwch chi yng nghanol cythrwfl.
Pan fyddwch yn cadw dogfen am y tro cyntaf fe ddylech roi teitl iddi neu bydd gennych nifer o ddogfennau i gyd o'r enw Untitled.
Fel arfer pan fyddwch yn cynhesu solid mae'n troi yn hylif, a bydd yr hylif yn troi yn ôl yn solid wrth ei oeri.
Beth bynnag fyddwch yn ei benderfynu, peidiwch as ystyried y cynllun fel un sefydlog.