Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fymryn

fymryn

Sylwais ar Breiddyn a Lewis Olifer yn sefyll fymryn o'r neilltu i bawb arall; yr oedd Menna wedi cymryd gofal o Deilwen Puw.

Am gymal neu ddau dangosodd fymryn o nerfusrwydd yna aeth rhagddo i ganu'n hyfryd, gydag aeddfedrwydd tu hwnt i'w oed.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Yna, gwyrodd fymryn uwchben Mam dan syllu'n hir arni yn ei thrymgwsg.

Ar nodyn fymryn yn fwy llawen, llongyfarchiadau i Paccino am fod y grwp gorau yn yr Esiteddfod Roc yn Aberystwyth brynhawn Gwener.

Ac os oedd gwythiennau'r Fraslyd, y Fowr a'r Bumcwart a'r lleill i gyd yn dipyn sicrach na thywod, eto, o'u twrio a'u tynnu oddi yno roedd y tir uwchben yn siwr o symud ryw fymryn.

A chododd hyn fymryn o eiddigedd yn ei fynwes ef rhag i rywun arall lwyddo i ladd Ap o'i flaen.

Ond, yn deimladol, doedden nhw fymryn yn nes at ei gilydd.

Roedd hi fymryn yn dewach nag roedd o wedi disgwyl ond doedd hynny ddim o bwys mawr.

..!" Yn olaf, cyn troi unwaith ac am byth at y drws, agorodd Morfudd y ddau fotwm uchaf ar ei choban wen er mwyn dangos rhyw fymryn pryfoclyd ar gnawd ei mynwes.

Ymlaciodd Morfudd rhyw fymryn a theimlodd gryndod yn tindroi drosti.

Ond nid oedd Willie fymryn dicach.

'I Edward Wyn,' atebais yn syth, fel pe bai rhyw fymryn o furmur hen adlais yn fy ysgogi.

Maen nhw'n cydweithio'n rhagorol gyda'i gilydd ac, yn sicr, mae'r caneuon newydd (er nad yw pedair ohonyn nhw mor newydd â hynny erbyn hyn) yn dangos cryn aeddfedrwydd a rhyw fymryn o newid mewn naws.

Y mae rhyw fymryn o bosibilrwydd mai Pearson oedd yr ail elfen.

Er bod yma ymgais i gyflwyno cerddoriaeth sydd fymryn yn galetach na'r arfer, nid grwp roc mo Chouchen, ac oherwydd hynny nid yw'r traciau hyn yn taro deuddeg.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

Nid yn gymaint am ei bod hi wedi dod o hyd i'r darlun - digwyddiad oedd hwnnw, ac nid oedd fymryn o'i busnes hi pam y daeth i ganol yr anfonebau - ond oherwydd ei hagwedd tuag ato.

Yn aml roedd ffermwyr yn defnyddio ffon o'r fath a chredid na fyddai yr un anifail fymryn gwaeth o gael ei daro ganddi.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Fe'i cynheswyd fymryn wrth gofio am y dyddiau ysgol rheini pan fyddai Gwyn yn rhuthro am adra a'i wynt yn ei ddwrn a'i ben yn llawn syniadau.

''Da ni'n dynesu at y Cerrig hwnnw?' holodd y Paraffîn fymryn yn bryderus a chraffu o'i flaen.

Os oes raid wrth fenthyciad, efallai mai'r lle gorau bob tro yw eich banc, hyd yn oed os bydd y llog fymryn bach yn uwch na gan gwmni ariannu arall.

Eisteddai Henri yn llewys ei grys wrth fymryn o dân nwy swnllyd.

Hofran, gerfydd ei hochr, rywsut, roedd hi, gan gadw ryw fymryn o'u blaenau.

Mi wn i iddi gael ei magu ar Ynys Islay yn yr Hebredies (ynys y bu+m innau arni hi, ddwy flynedd yn ôl, am fymryn o wyliau) a'i bod hi, bellach, yn byw yng Nghaernarfon, yn ardal Twtil, a'i bod hi'n addoli'n gyson yn Eglwys y Santes Fair.

Mae clywed y geiriau hyn yn mynd a ni'n ôl fymryn mewn amser.

Mae hefyd yn amlwg nad oedd y ddau Edwards fymryn callach na'u cyd-oeswyr a geisiai wella pobl.

Synnwn i fymryn.

Os oedd yna fymryn o awgrym o dywyllwch, gwreiddiai ef ynddo'n awchus o hyfryd.

Er na cheir amheuaeth mai trac gan Gruff Meredith ydi hi, mae Go Iawn Wir Yr fymryn yn galetach na'r arfer, sydd yn brawf o bosib mai bwriad Boobytrap ydyw cynnig y cyfle i artistiaid Cymru arbrofi gyda'u cerddoriaeth.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dueddol o feddwl mai adrodd rhyw fymryn o linellau ydi'r hyn mae rapwyr yn ei wneud ond gwelir yma fod meistrolaeth o rhythm a geirfa yn hanfodol hefyd.

'I beth?' gofynnais, gan geisio ei annog ryw fymryn.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Cododd ei galon fymryn a meddwl na fyddai ddim hanner mor unig arno wedi iddo gael ci _ ci tebyg i Cl_o, er ei bod hi'n rhy dew a'i bol yn mestyn tua'r llawer ac yn ysgwyd wrth iddi hi gerdded.

Troi'n ôl i Fwlch y Clawdd Du a cherdded tua'r gogledd i olwg Llyn Cerrig Llwydion Uchaf, yna, heb golli uchder, gwyro fymryn i'r dde i gyrraedd Llyn Cerrig Llwydion Isaf.