Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyn

fyn

A hyd heddiw, er yr holl ymdrech gynnar, fe fyn ymadroddi o'r fath frigo o dro i dro wrth i mi lefaru Saesneg yn enwedig fel yr wyf yn heneiddio.

O fewn pob thema ceir cyfres o benodau sy'n rhedeg yn gronolegol, ac mae modd i'r athro a fyn ddelio â chyfnod yn ei gyfanrwydd ddethol y penodau perthnasol o fewn pob thema.

Yn awr mae'n eiriol yn y nef, Erfyniwn am fyn'd ato ef; I'r wlad lle nad oes loes na chlwy', Ac na fydd rhaid ymadael mwy.

Fy nghyngor i'r rhieni hynny a fyn i'w brid arbennig hwy o fab afradlon fynd yn awdurdod amaethyddol yw iddynt gadw'r peth bach cyn belled ag y medrant oddi wrth bridd a baw.

Fel y gŵyr pawb ond y lembo mwyaf safnrhwth, ac ambell godwr canu, y mae cael gafael ar fferm yn fanteisiol i'r sawl a fyn fod yn ffermwr.

Ni fyn Harri ildio'i le i'r proletariat.

Er hynny, fe fyn iddo gael yno gaer fawr a berthynai i arweinydd milwrol o'r dosbarh neu'r teip y gellid disgwyl i Arthur berthyn iddo.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Fe fyn rhai pobl ddweud mai yng nghapel Libanus y dechreuodd y diwygiad yn Llanfairfechan.

Ond ei farddoniaeth, wrth gwrs, a fyn ei fod yn cael cryn sylw gan yr hanesydd llen.

Creadur penderfynol yw Pedr, fe fyn fynd ymlaen.' 'Pedr,' meddai Ioan, 'y mae hi'n dywydd ofnadwy.' 'Wel, ydyw,' meddai Pedr, a lluwch ton yn mynd dros ei wyneb; 'Ydyw, mae hi,' meddai.

Yma mae gewin y rhew yn crafu'n genfigenllyd o dan gesail y barrug pan fyn yr eira