Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyned

fyned

RHAID I TI FYNED Y FFORDD HONNO DY HUN

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

Dyna fyddai yn iachawdwriaeth i'n gwlad yn y ganrif yr ydym ar fyned iddi' (John Williams, Brynsiencyn, R.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Lleoedd ydynt y cytuna'r cariadon i gyfarfod, gan fyned adref gyda'i gilydd yn hwyr y nos.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Ond yng ngeiriau Syr T H Parry Williams, mae Towyn yn un o'r bobl ryfeddol hynny sy'n "myned yn iau wrth fyned yn hŷn".

Yn ei fyned ef, fe gollodd Cymru ysgolhaig a beirniad a llenor.

'Roedd ei ffugenw, 'Un wedi iddi fyned yn nos arno', bron yn hwy na'r gerdd ei hun: Tremiaf, mi ganaf i'r gwyll - Myn diaw, y mae yn dywyll!'