Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.
Nofiodd pry copyn y dþr at fynedfa'r palas, ac amneidiodd arweinydd y chwilod ar Ffredi a Gethin i'w ddilyn.
Yn sydyn ac yn gwbl ddirybudd yr oedd y dyn yn sefyll yn y fynedfa i'r ffynnon.
Croesawai'r Eglwys gelfyddyd y paentiwr hefyd, a ymarferai â'i grefft ar y muriau gwyngalchog a darlunio golygfeydd Beiblaidd ac eglwysig yn lliwgar a byw; yn naturiol, fel yr âi tai'r ysgwi%eriaid yn fwy uchelgeisiol, câi'r paentiwr fynedfa iddynt hwythau'n ogystal.
Picedwyd y fynedfa gan aelodau o blaid Cymru Annibynnol, yn galw ar y cyhoedd i beidio a mynd yno.
Dealla'r Goriad mai'r cam diweddaraf yw ceisio prynu garej Foulkes ar Ffordd Ffarrar sy'n union wrth ochr y fynedfa i'r cae pel-droed.
Bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cael ei harwain gan y Cadeirydd, Branwen Niclas, yn aros am y Prif Ysgrifennydd am 12.00 o flaen y fynedfa i Senedd-dy Owain Glyndwr.
Heb edrych i'm cyfeiriad, cerddodd y ddau at y ffenestr gyferbyn, ac edrych allan tua'r fynedfa.
Lleolir arosfan y bysiau wennol ger prif fynedfa Ysgol Maesincla.
Ar ei phen hi, y tu ôl i graig, roedd twll bach - y fynedfa i `Ogof Angau'.
Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.
Pen hir a hwyr daeth Wang Jun, athro Saesneg, i'n cyfarfod, a dyma stryffaglio at fynedfa'r orsaf.
Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.
Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes.
Delweddau negyddol sy'n ein pledu yn ystod hanner cynta'r ffilm: yn wir, golygfa lom sy'n agor y ffilm wrth i Mona'r 'fenyw eis-crim' frasgamu drwy'r glaw fin nos i dŷ sinema'r Rex sydd a phoster uwch ei fynedfa yn hysbysebu'r ffilm nesaf a ddangosir: Coming Soon: Raiders.
Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.
Erbyn wyth o'r gloch fore trannoeth safai Menem, yn ei lawn daldra o bum troedfedd a phedair modfedd, wrth fynedfa Ty'r Llywodraeth, y Casa Rosada (y Ty Pinc).
Roedd y cais gwreiddiol yn son am fynedfa o Ffordd Sackville gyda lle i gerdded o'r safle i'r Stryd Fawr.
Felly, rhaid i ddarn o dir agored ger y fynedfa wneud y tro; mae hyd yn oed edrych ar 'y caeau cachu' yn ddigon i godi cyfog.
Un prynhawn yn yr haf, pan oedd y peiriannau'n segur, daeth gwyr y felin at ei gilydd y tu allan i fynedfa'r gwaith a chael hoe a sgwrs yn yr heulwen.
Cyn hir, gwelodd ei fod yn dynesu at y fynedfa - yr hollt gul yn y graig.
Ond roedd ffigur yn ymddangos drwy'r môr o oleuni a oedd yn ymledu o'r fynedfa.
Nodwedd fwyaf trawiadol yr adeilad yw'r brif fynedfa sydd â phortico talog yn cael ei gynnal gan chwe colofn Ionig o farmor Môn.
Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.