Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynegi

fynegi

Mae Meini Gwagedd yn gampwaith, lle mae'r awdur wedi dod o hyd i gyfrwng hollol addas i fynegi gweledigaeth gymhleth o sefyllfa dyn.

Cau'r ffin oedd ffordd Iran o fynegi anfodlonrwydd.

Mae'r pamffledyn yn ddarn syfrdanol o feddwl hanesyddol a phroffwydol, a hwnnw wedi ei fynegi mewn rhyddiaith rymus, baradocsaidd yn aml.

Peth eithriadol iawn oedd iddo ganu cerdd i fynegi'i alar preifat ei hun.

Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn.

A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.

Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny.

Dim cyfle i baratoi heb son am fynegi amheuon.

Cyfuniad yw o elfennau diriaethol a haniaethol ac y mae'n gyfrwng i fynegi ymwybyddiaeth gymhleth.

Cydsyniais yn eiddgar, gan weld cyfle i grisialu fy syniadau fy hun am fanteision ac anfanteision uno dwy ran y wlad, ac i fynegi sut rydw i - fel brodor o'r hyn a arferai fod yn Ddwyrain yr Almaen - yn teimlo erbyn hyn.

Ac o safbwynt llenyddol, gallai fynegi ei hunan mewn cwpledi a phenillion nodedig am eu cryfder, eu heneiniad a'u prydferthwch.

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl.

Yr hyn y mae'n ceisio ei fynegi yw nad yw trin dynion a merched yn gydradd yn golygu eu trin yr un fath.

Hoffwn fynegi ein diolch i'r Parchedig Billy Ind, Esgob Grantham, am ei ymdrechion ar ein rhan a hefyd i Mr Wilford, Archaeolegydd Lincoln, am ei gefnogaeth.

Glynne Davies, gwelwn i ba raddau yr oedd parodi yn gyfrwng i fynegi'r bywyd o'i amgylch fel milwr yn ystod blynyddoedd y Rhyfel.

Mewn pwyllgor diweddar o Ranbarth Arfon o Ferched y Wawr, gofynnwyd i mi anfon atoch i fynegi ein gwrthwynebiad â'r rhyfel yn y Culfor.

Ond fe'i cafodd Pamela'i hun yn amddiffyn yr efengylwyr heb ystyried ei sefyllfa'i hun ac meddai wrth y ferch, "Ti ddylai fod yr olaf i fynegi barn - y fath berson â thi."

Ar y llaw arall, ame seiciatryddion a seicolegwyr wedi hen arfer â throi i fyd chwedloniaeth i fynegi a chyflwyno eu syniadau a'u delweddau.

Ni lyncwyd Alun Jones nac Aled Islwyn gan y cyfryngau, ac er bod William Owen Roberts yn ennill ei fara menyn ym myd y teledu, mae'n ymddangos fod y nofel yn gyfrwng a apeliodd yn arbennig ato am ei bod yn rhoi cyfle iddo fynegi'i weledigaeth mewn modd mwy myfyrdodus na'r teledu.

Ar ôl iddo ddysgu'i grefft yn drylwyr, dechreuodd Paul Davies fynegi'i hun mewn dull cynyddo anhrefnus, gan ddefnyddio plastar a sbwriel yn gerflunwaith.

Fedar neb fynegi yn briodol mewn geiriau beth a geir ar Enlli.

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.

Collwyd hefyd wr a fynegi ei farn yn ddiflewyn ar dafod.

Yr oedd gan genedligrwydd ei nodweddion arbennig; neu'n fwy cywir efallai, yr oedd am ei fynegi ei hunan mewn sefydliadau.

Dyma bellach fynegi mewn beirniadaeth yr hyn yr oedd amryw yn anelu ato.

Caiff H. G. Wells ei fynegi: At times, in the silence of the night in rare lonely moments, I come upon a sort of communion of myself and something great that is not myself.

Gan ddal mewn cof yr hyn a ddywedwyd yn awr am y pregethau, gellir dweud bod angen llyfrau newydd i fynegi newydd-deb y mudiad ei hun.

Tueddu i ddelfrydu'r testun yr oedd ygwaith a gadael argraff o ddiffyg bywyd a'r ias oedd, efallai, heb ei llawn fynegi.

Dyma'r datganiad: "Y mae heddiw ddeffroad ym mywyd Cymru ac awydd cryf am gyfle i hwnnw ei fynegi ei hun.

Pan nad oedd fawr ddim addysg Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, yr oedd yr Ysgol Sul yn dysgu miloedd i ddarllen yn ddeallus ac i fynegi eu syniadau a'u hargyhoeddiadau'n glir ac yn gryf.

Nid oes ail iddo am fynegi mawredd, gogoniant, cariad, gras a dioddefaint y Gwaredwr.

Wel dyma fi eto heb eiriau i fynegi'r hwyl wrth gael bod yn rhan fach o fyd y morlo.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar Plaid Cymru fe'n hargyhoeddir ar unwaith mai gwyr glew a gwragedd dewr a'i sylfaenodd, H. R. Jones, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. J. Williams, J. E. Jones, Kate Roberts; amser a ballai i mi fynegi am J. P. Davies, Ben Owen, Ambrose Bebb, Mai Roberts, Cassie Davies ac eraill, y rhai a roddodd fudiad rhyddid Cymru ar sylfaen ddiogel.

Mewn ymateb i'w ymdrech i'w fynegi ei hun, bydd y siaradwr aeddfetach yn cynnig adborth iddo, adborth o fath unigryw sy'n ystyr ganolog ac sydd hefyd yn amddifad o unrhyw elfen fygythiol ee Plentyn Ifanc: "pan" ethin Plentyn Hŷn: Ia, cwpan Gethin ydi honna ynte neu Plentyn: "nath fi myn i Wrecsam efo nain fi Dydd Sadwrn" Athro: "Mi es ti i Wrecsam hefo dy nain Dydd Sadwrn.

Maen nodi bod y Ganolfan Gwybodaeth newydd bellach yn darparu mynediad i'r cyhoedd i BBC Cymru, fel y gall gwylwyr a gwrandawyr fynegi eu barn au pryderon yn uniongyrchol i'r BBC. Gellid gwneud mwy hyd yn oed i annog adborth, o bosibl drwy ehangu a hyrwyddo cyfleusterau arlein.

'Does gynnon ni ddim senedd na llwyfan ble y gallwn fynegi ein teimladau fel cenedl.

Ac roedd rhai'n barod i fynegi'r amheuon hynny.

Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos at ei galon.

Bellach, mae erthyglau yn llifo i mewn, a'r Gymraeg yn gyfrwng i fynegi syniadau.

Yr hyn sy'n newid yw ei ddull ffurfiol ef o fynegi'r profiad wrth iddo arbrofi â thrin a thrafod paent.

Darllenod gymaint am Baris nes mynd yn awdurdod dibrofiad ar y ddinas a'i rhyfeddodau, a mentrodd fynegi barn yn y dosbarth nos a argyhoeddodd bawb ei fod yn hen gyfarwydd a Ffrainc.

Y teyrngarwch gwaelodol hwn yw "crefydd" ac y mae'n rhoi cyfeiriad nid yn unig i'r ffydd yr ydych yn ei fynegi ond pob gwedd arall hefyd ar eich gweithgarwch.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

Roedd Seimon ar fin cynnig mynd yn ei lle pan roddodd y ficer ei law ar ei fraich i fynegi ei fod yn dymuno sgwrs ag ef.

Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

o Trevul Morris, ac yn nes ymlaen yn fy ngyrfa ryngwladol roeddwn I fynegi fy nheimlade mewn pennod stormus tu hwnt.

Yr oedd ei fywyd mewnol mor fyw fel na allai beidio a'i fynegi ei hun mewn gweithredoedd yn ei ymateb i amgylchiadau.

Mae'n bleser calon gennyf fynegi pob cefnogaeth i'r Gymdeithas yn eu hymgyrch dros gryfach Deddf Iaith i Gymru.

A'r adroddiad ymlaen i fynegi gofid bod y rhaglen a gynigir yn nes ymlaen yn yr ysgolion cynradd "yn fwy ffurfiol ac yn fwy caeth i lyfrau ac ni chynhelir, bob tro, y cynnydd cynnar mewn datblygiad llafar".

Os profiad neilltuol angerddol yr unigolyn yw defnydd llenyddiaeth, rhaid i'r bardd neu'r nofelydd groesawu'r profiad yn ei gyfanrwydd, a'i fynegi yr un modd.

gall disgybl sydd yn llwyddo'n well i ysgrifennu stori nag i fynegi barn fod ar ei fantais eleni, ac i'r gwrthwyneb.

Ond, ni fedrwn sefyll gan nad oedd y botwm yn ei le priodol - o dan fy nghorff (i mi fynegi fy hun yn ddelicet!).

Yn ôl Dana, mae Duw yng nghariad yr ymgnawdoliad yn rhoi lle i ni gyd fynegi ein dicter, ein siom an hangerdd.

Gwelwn i'r Israeliaid ar hyd y blynyddoedd ddatblygu a gwerthfawrogi'r sefydliadau a dybiai'n angenrheidiol i fynegi ei hymwybyddiaeth fel cenedl.

Bydd gwylwyr teledu gwybod yn dda am rym y dyfyniad uniongyrchol pan gaiff hwnnw un ai ei gyfeirio yn syth i'r camera gan gyflwynydd medrus fel David Attenborough neu ei fynegi trwy gyfrwng holwr profiadol.

Rhag i neb fedru gwneud ensyniadau fel hyn amdano, rwy'n siwr y medr dderbyn fy awgrym caredig, a pheri ail-hysbysebu'r swyddi hyn, gan ddwyn y gwynt o hwyliau pob beirniaid drwgdybus ac anwybodus ohono, drwy fynegi yn glir y bydd gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i unrhyw benodiad.

Mae wedi'i fynegi mewn termau a oedd yn gwbl nodweddiadol o'r dosbarth yna yng nghymdeithas oes Victoria yr oedd ei addysg a'i gefndir wedi ei ragbaratoi i fod ar y brig yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Yr wyf wedi dywedyd digon i fynegi'n amlwg fy Nghyffes Ffydd fy hunan.

Dro arall aethant i Fanceinion i fynegi eu gwrthdystiad ar deledu Granada.

Craidd cyson hwnnw oedd ei ymgais i fynegi hanfod y profiad a gai wyneb yn wyneb â golygfa arbennig mewn gwahanol lecynnau ar wahanol adegau ar y dydd a gwahanol dywydd.

Ymgais i fynegi diolch iddo am y modd y mae'n dyst i safonau ysgolheictod y Gymraeg yn y byd cydwladol hwnnw, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yw'r ysgrif hon.

o'u siarad a'u gwrando: eu gallu i siarad a gwrando mewn amrywiaeth o gyd-destunau; i fynegi syniadau, teimladau a safbwyntiau; i roi gwybodaeth a chyfarwyddiadau ac ymateb iddynt, i ddarllen ar goedd, i actio ac i drafod mewn grwpiau bach a mawr; Pa amodau gwaith sy'n berthnasol?

Mae lle i feirniadu ar eiriad y datganiad yna, wrth gwrs; ond mae'r safbwynt y mae'n ceisio i fynegi yn hollol iach - a sosialaidd.

"Mae'n ddyletswydd arnon ni i fynegi i genhedlaeth o bobol beth yw natur eu hanes nhw."

Parhawn i ddisgwyl am ymateb gan y mwyafrif ond mae ymateb rhai eisoes wedi bod yn bositif gan fynegi diddordeb mewn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â Deddf Eiddo.

Rhaid inni gofio bob amser i'r efengylau gael eu hysgrifennu i fynegi ffydd y Cristion yn ei Grist a hefyd i gyflwyno'r genadwri Gristnogol mewn dull a fyddai'n ennill diddordeb ffafriol y byd Rhufeinig.

Cyn trafod y daliadau eu hunain, rhaid yn gyntaf arolygu agwedd y Methodistiaid at lenyddiaeth fd y cyfryw, callys y mae a wndo'u hagwedd gryn lawer â'u dull o fynegi'u meddyliau, a chryn lawer hefyd ~ dirnadaeth eu darllenwyr ohonynt.

A dyma fynegi'r rhyddhad o'i gael,

Cyfrwng i fynegi teimladau personol yw barddoniaeth i ni heddiw, ac felly gallwn ymateb yn haws o lawer i gerdd fel hon nag i'r cerddi mawl confensiynol.