Ceir yr hanes yn un o gywyddau Iorwerth Fynglwyd.
Dywedwyd am Iorwerth Fynglwyd ei fod yn edrych ar Fargam 'fel un o ddinasoedd noddfa'r bardd Cymraeg,' yn enwedig pan oedd yr Abad Dafydd yn bennaeth yno.
Dro arall, bu Iorwerth Fynglwyd a Wiliam Egwad yn annog yr Abad Dafydd i gael gwared ar ryw glerwr o'r enw Sion Lleision o'r fynachlog.
Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.