Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynnu

fynnu

Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.

a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?...

Ar y llaw arall y mae'r ymfudwyr yn fynych iawn wedi eu magu yn y gred mai rhan o Loegr yw Cymru ac mai bod yn amrwd ac anghwrtais y mae'r Cymry Cymraeg wrth fynnu siarad yr iaith.

Y perygl mwyaf i ni fyddai caniatáu i'r Bwrdd Iaith, Tai Cymru, Quangos Addysg ac yn y blaen fynnu cael hunan-lywodraeth.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Gwahoddir pawb sy'n rhannu dymuniad y Bwrdd i weld yr iaith yn ffynnu, ac sydd am weithio mewn partneriaeth gyda ni, i fynnu eu rhan yn y strategaeth hon ac i gyfranogi o'i gwireddiad.

Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.

Dechreuodd y Gymdeithas ymgyrchu trwy fynnu statws cyhoeddus i'r iaith Gymraeg.

Mae dibynnu ar ewyllys da mewn gwirionedd yn golygu dibynnu ar bobl i ymgyrchu ac i fynnu gwasanaeth yn Gymraeg.

Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.

Rhowch eich enw ar y ddeiseb i fynnu gwasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn, ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Os yr ydym am fynnu ymosod fel hyn ar anifeiliaid gadewch inni, o leiaf, wneud hynnyn ramadegol gywir.

Ond mae Birmingham yn ystyried gofyn i Gynghrair Nationwide am ail chwarae ar ôl i'r heddlu fynnu y dyla'r ciciau gael eu cymryd o flaen cefnogwyr Preston yn hytrach nag ym mhen arall y cae lle nad oedd cefnogwyr y naill dim na'r llall.

Mae'n RHAID i chi fynnu copi o albym newydd Anweledig, ac os ydach chi eisiau copi am ddim yna mi fyddwn ni'n rhoi copi yn wobr bob nos yr wythnos yma rhwng deg a hanner nos.

Daethant yn foddion i boblogeiddio mater a fuasai cyn hynny'n beth digon esoterig, a defniddiodd Gruffydd hwy fel bocs sebon, gan fynnu hawl draddodiadol yr areithiwr bocs sebon i osod gwrthrychedd o'r neilltu.

Ni ddylid dibrisio gwerth darllen yn yr ystafell ddosbarth trwy fynnu darllen gyda neu dros ddisgyblion yr hyn sydd ar gael iddynt mewn print.

Nid oes hawl gan ddiffynyddion mewn llys i fynnu ynadon a barnwyr sy'n deall Cymraeg.

Buaswn irmau'n ateb y pwynt cyntaf a ddyfyrmwyd o'r Llythyr ynghylch Catholigiaeth trwy fynnu bod gwadu ymhoniadau ysbrydol a gwleidyddol yr Eglwys Babyddol a herio ei hawdurdod cyn hyned ac mor Ewropeaidd â'r Eglwys Babyddol ei hun.

Yr oeddent wrthi'n gweithio i weddnewid gwerin mewn ffyrdd a fyddai'n ei gwneud yn ddigon hyderus a diwylliedig erbyn canol y ganrif i fynnu ei hawliau ac i gymryd at awenau arweiniad cymdeithasol a gwleidyddol.

Dangosodd optimistiaeth a gorhyder ffôl, wedyn, trwy fynnu, yn groes i bob cyngor doeth, ymweld â Dallas, lle 'roedd y trigolion yn ei gasa/ u?

Rhaid inni barhau i fynnu newidiadau radical a gwirioneddol er lles y Gymraeg a'n cymunedau.

Yr un argyhoeddiad a barai i Cradoc fynnu fod y saint i gyd yn gyfartal â'i gilydd.

Davies honiad y Loteri mai cost y prosiect fyddai £345,000, gan fynnu fod y £100,000 sydd wedi ei addo i dalu'r costau i gyd.

Y canlyniad yw nad oes gan y bobl leol yr ewyllys i fynnu aros yn eu cymunedau bychain.

Fe ddylech fynnu eich bod yn cael addoli yn eich mamiaith.

Roedd Rod Richards wedi gwrthod, dro ar ôl tro, derbyn deiseb addysg y Gymdeithas, ac felly yr unig ffordd o fynnu ei fod yn talu sylw i ddymuniadau pobl Cymru oedd mynd â'r ddeiseb at ei swyddfa yn bersonol.

gyda'r anifeiliaid, yn cysgu dan balfau cath uffern, yn chwennych y rhosyn, heb fynnu dyfod i'r ardd i'w gyrchu'.

I unrhywun wnaeth ddilyn yr hanes roedd oriau olaf negodi'r cytundeb yn un llawn drama gydag Unoliaethwyr a Gweriniaethwyr yn gadael ystafelloedd ac yn strancio gan fynnu bod eu safbwynt hwy yn cael ei ddiogelu gan y geiriad.

Yr hyn a newidiodd agwedd Alun Llywelyn-Williams at y Gymraeg oedd i'w dad fynnu ei fod yn astudio'r pwnc yn y Chweched Dosbarth.

Dim ond trwy roi statws swyddogol i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru y gallwn ni wedyn fynnu bod banciau a siopau a chwmnïau ac ymddiriedolaethau iechyd, a.y.y.b. yn gweithredu'n drwyadl ddwyieithog. Siân Howys yn gwneud ei marc ar ddechrau'r ymgyrch

Un o'r achosion diweddaraf o hyn oedd dyfarniad bwriadol, haerllug y Tribiwnlys Diwydiannol drwgenwog hwnnw ym mae Colwyn rhyw flwyddyn yn ôl, nad oedd gan Gyngor Sir Gwynedd yr hawl i fynnu bod gan ymgeiswyr am rai swyddi wybodaeth o'r Gymraeg.

Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan.

Dylai'r Cynulliad fynnu'r hawl i reoli'r farchnad dai ac eiddo yng Nghymru er budd cymunedau Cymru.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Eto, daeth y sŵn dieithr-gyfarwydd ar ei ôl, gan fynnu gwthio'i ffordd tuag ato.

Codwyd amheuon a yw ein chwant i fynnu mwy a mwy o adnoddau'r ddaear, (yn aml ar draul rhywogaethau eraill a'r llwythau dynol llai pwerus) yn gynaladwy heb sôn am fod yn foesol.

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

Cychwynnodd y Gymdeithas drwy fynnu statws i'r Gymraeg mewn siopau, banciau ayyb, a chafodd nifer o fuddugoliaethau.

Yn wir byddem yn eich anog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu fod y Ddeddf Addysg arfaethiedig i Gymru yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.

Eto ni allai ymesgusodi rhag y cyhuddiad ei fod yn cyflwyno pwyslais newydd, gan ddilyn Talsarn a Williams o'r Wern i fynnu nid yn unig ddigonolrwydd haniaethol yr Iawn ond hefyd lydanrwydd y porth a gallu pob pechadur i droi at yr Iachawdwr.

Ym mis Mai cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i gynyddu'r gofal yn y marchnadoedd gan fynnu bod defaid yn dioddef o'r clafr yn cael eu cludo oddi yni i'w trin.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Pa ryfedd iddo fynnu imi dorri gair cryfach o lawer allan o raglen a wneuthum ar dâp yng Nghwm Elan ddechrau'r chwedegau.

Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.

Hyn neu fynnu'r hawl i ddeddfu ar faterion ieithyddol.

Yn wir byddem yn eich annog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu Deddf Addysg i Gymru a fydd yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.

Awgrymodd mai gwell fyddai i rai o'r offeiriadon mwyaf mentrus 'fynnu brech Undodaidd rhag ofn iddynt ddod i gyffyrddiad â ni yn ddiarwybod iddynt'.

Gan nad yw'r Cynulliad â'r hawl i basio deddfwriaeth gynradd, pwyswn arnoch i fynnu fod senedd Westminster yn neilltuo amser penodol i drafod Deddf Addysg gyfochrog i Gymru fydd yn gweithredu barn y Cynulliad Cymreig.