Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynwent

fynwent

Yn y fynwent, fe safodd yn stond a thynnu ei gap o flaen un o'r meini coffa.

Welodd hi erioed fynwent debyg.

Wedi'r gwasanaeth, aeth yr angladd i fynwent Eglwys Llansadwrn a rhoed y fam i orffwys yn y bedd cleilyd.

Yn sydyn gwelodd y gŵr yn dod tuag ato o'r coed, yr un gŵr bychan ag a welsai yn dod o'r fynwent, gyda'r dyn a ddihangodd o'r carchar.

Daeth yma rai blynyddoedd yn ol o Bryn Mor, Llaneilian ac i Fynwent Llaneilian y dychwelodd.

O flaen porth yr eglwys ac ar gongl yr hen fynwent y codwyd cofgolofn y milwyr, a chofir yr aberth drud hwnnw o hyd mewn cyfarfodydd crefyddol ar Sul y Cadoediad.

Mae'r gynulleidfa'n ddigon tene ar y gore, a doedd neb yn teimlo fel edrych ar Madog a chil i lyged bob tro y bydde'r ficer yn pregethu; ond roedd tŵr yr adeilad mewn cyflwr truenus, y glaw'n dod miwn drw'r to mewn manne, a wal y fynwent yn dylle i gyd - a deg mil yw deg mil.

Rhaid oedd cytuno a'r ficer pan ddwedodd e ma rhodd o'r galon oedd hon ac y gellid codi eglwys newydd, bron, gyda'r arian - codi wal newydd sbon o gwmpas y fynwent, a thalu i ddyn am ofalu ar ol y bedde.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Yna ailfeddwl a'i ddodi yn ôl ar y glaswellt, a dychwelyd i'r fynwent wrth yr hen eglwys.

Eglurodd Llio natur ei phrosiect gan sôn am ei hymchwil i hanes yr eglwys ac i'r fynwent a'r bedd yn arbennig.

Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychmygwn glywed fy hen feistr yn dweud wrthym, ``Thanciw, Rhys thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda,'' a Dafydd a minnau megis yn cydateb, ``Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti''.

Am y tro cyntaf, cafodd weld mewn sut fynwent yr oedd Harri'n byw.

Yr oedd llun o'r bedd - mewn lliw y tro hyn, ond roedd llun o'r fynwent hefyd.

Yno mae'r ddwy fynwent hefyd, un yn hen a'r llall yn newydd yn ôl oedran beddrodau.

Yr oedd yntau'n gorfod mynd allan i'r fynwent i'w hannerch gan nad oedd lle iddynt yn yr eglwys a hawdd y gallai wneud hynny gan fod ganddo lais cryf, hyglyw.

Rwyn cofio hefyd, a minnau'n ddeuddeg oed, fynd yn groes i erfyniad fy nhad, i syrcas a oedd yn cael ei chynnal ar un o gaeau fferm y Neuadd sydd bellach yn fynwent.

'Ond yr hen ddyn mawr yna a redodd o'r fynwent yma gynnau.

Mi fues i'n ei gnebrwng o, mi fues i'r fynwent...'

Unwaith eto gellir breuddwydio am ddarpar gymar drwy fynd i fynwent hollol ddieithr, torri ychydig o ywen a'i osod o dan y gobennydd.

Dyma'r fynwent.

'Na, na, dydw i ddim yn busnesa,' llefodd Siân wrth i law Mwsi gau fel bawd cranc am ei arddwrn a'i dynnu tuag at y fynwent.

Llamodd ei galon wrth iddo glywed sŵn yn y goedlan gerllaw, dros y ffordd i'r fynwent.

Ac roedd wedi gwneud hynny, gan adael ei ôl, nid yn unig ar y cerrig beddau yn y fynwent a oedd wedi gwyro i'r dde neu i'r aswy wrth i'r tir o danynt symud a setlo, ond hefyd ar waliau cedyrn y capel o briddfeini a ddaeth o dy'r ffan ar ben y gwaith, 'slawer dydd.