Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynychaf

fynychaf

Cyflawnid hynny fynychaf er mwyn cadarnhau statws y teuluoedd hynny.

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

Deilliai'r achosion Gwyddelig fynychaf o gwerylon yn ymwneud â thir a deiliadaeth, neu drais a gyflawnid yn ystod cynhenna parhaus, weithiau dros genedlaethau lawer, rhwng dau deulu.

Ran fynychaf, digon di-fudd yw eu cynnwys ond yn awr ac yn y man gwelir cyfle i ymhelaethu arnynt.

Ar ei ysgwyddau ef fynychaf y rhoddid y cyfrifoldeb i feithrin parch ac ymarweddiad gweddus ymhlith ei blant.

Y math o geffyl a welir fynychaf erbyn hyn yw ar gyfer ei farchogaeth.

Y gwrthwyne, fynychaf, sy'n wir ym myd celfyddyd," meddai.

Byddai'r merched a'r gwragedd wedi paratoi gwledd i'w mwynhau yn yr awyr agored, a byddai'r darlithydd fynychaf yn torri ei ddarlith yn ddwy ran - un cyn y picnic mawr a'r llall ar ôl hynny.

Y canol oed a'r henoed sy'n dioddef ohono fynychaf.

Felly, i ryd&au'r darnau mawr a'i gwneud yn bosib i'w datblygu, mae symud Gwerinwr neu Werinwyr yn angenrheidiol yn gynnar iawn - fynychaf ar y symudiad cyntaf oll.

Fynychaf byddai dwy gyrlen yn gwthio'u ffordd o dan fargod ei phenwisg fel tasen nhw'n chwarae mig y naill efo'r llall.

Adeg y gwanwyn rhan fynychaf oedd yr adeg pryd y trefnid y gwaith o 'dynnu'r olwynion', am mai dyma'r pryd y byddai ffermwyr ac eraill yn gweld mor angenrheidiol oedd cael yr olwynion yn barod erbyn prysurdeb y tymhorau a oedd i ddilyn.

Cyfyng iawn oedd adeilad yr efail y rhan fynychaf.

Ran fynychaf, munudau hamddenol hyd yn oed yw'r rhai a dreulir o flaen y camerau o'u cymharu â berw'r ystafell newyddion ychydig funudau cyn amser darlledu.

Agorwyd dau draen sylweddol i draenio wyneb y gors, yn gyfochr â'r brif afon ond y tu allan i'w hargloddiau Rhoddwyd yr enw Traen Menai a Thraen Malltraeth arnynt; ond enw pobl yr ardal arnynt y rhan fynychaf yw Yr Afon Fain.

Y Sadwrn canlynol aeth Ali ar eu hôl i Birmingham yng nghwmni Shri Kristaan Moortty Pellai, neu Jim Pellai fel yr adwaenid ef fynychaf, i erfyn ar Mary i ddod yn ôl adref.

Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.