Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynyddoedd

fynyddoedd

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt..." "Ond bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn," parhaodd Snowt.

Ni pheidiais erioed â chael golwg ar y bedol o fynyddoedd sy'n gefndir i'r cwmwd, a'r rheini'n sefydlog arhosol ar orwel fy mod i ba le bynnag yr awn.

Ond draw y tu hwnt i fynyddoedd Ural doedd doniau'r gwleidydd slic ddim mor bwysig mewn dinasoedd lle roedd y ciwiau bwyd yn dal i ymestyn.

Y mae'n dechrau trwy gymharu gwlad Roeg â Chymru, trwy nodi fod y ddwy yn wledydd o fynyddoedd a chymoedd, lle mae natur wedi rhannu'r tir yn froydd bychain gyda thafodiaith wahanol ymhob un.

Dim ond ar y bwrdd y sylwais ar fynyddoedd o lyfrau nodiadau mewn llawysgrifen wedi eu gosod yn drefnus.

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt' Yng nghefndir yr adnodau hyn y mae deall holl gyfeiriadau'r Iesu at y genedl fel defaid heb fugail ac ato'i hun fel bugail a darewir a Bugail Da.

Roedd John Moriarty Owen o Stryd y Ffynnon, Gerlan, a Iolo Jones o Stryd Brynteg yn bwriadu rhedeg i fyny ac i lawr pedwar copa ar ddeg o fynyddoedd Eryri er mwyn codi arian i brynu offer arbenigol i Steffan Wyn, mab bychan Kevin a Meinir Thomas, Stryd John, Bethesda.

Cymharwyd yr Engadin Uchaf weithiau a Sweden - Sweden tan haul deheuol a than goron uchel o fynyddoedd ia llachar, miniog - cadwyn Bernina, yn anad yr un.