"Allwch chi ddim dweud 'fuck ' yn Gymraeg, ond mae ' n dderbyniol yn Saesneg," meddai, gan roi'i fys ar un o'r elfennau mwya' rhyfeddol yn sgandal Cwmglo hefyd.
"Cei." "Arian y giat, neithiwr?" Nodiodd ei ben a rhoi ei fys ar ei geg.
Roedd ei fys ar ei geg a siarsiai Klon a minnau i ddod gydag ef yn ddistaw.
Mae'n disgrifio Ceri Richards fel 'yr artist Cymreig', ond gan gyfaddef na all roi ei fys ar yr hyn sy'n Gymreig yn ei waith, fwy nag yn achos arwr arall, David Jones.
Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?
Er bod y Bwrdd Cynulleidfaol a'i fys yn o ddwfn ym mrwes yr Academi Annibynnol, yn wahanol i'r Bwrdd Presbyteraidd, nid oedd yn gyfrifol am benodi Saeson.
Pwyntiodd ei dad â'i fys at y clogwyn tywyll fry uwch eu pennau.
Roedd Ifor Owen a'i fys ar byls yr ifanc yn Llanuwchllyn a llwyddodd i ennyn diddordeb to ar ôl to ohonynt ac fe ddaeth Gŵyl Ddrama Llanuwchllyn yn bwysig a phoblogaidd gydag ardal gyfan yn cyfranogi.
Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.
Ar ben y rhestr yr oedd y bwyd gorau debyg a gosododd ei fys ar gyfer hwnnw.
Anelodd yntau ei fys yma ac acw ond eglurodd y Du a Gwyn yn ffroen-uchel braidd sut y dylai ddewis.
Torrodd Scott Gibbs, canolwr Abertawe, ei fys yn ystod hanner cyntaf y gêm rhwng Abertawe a Chastell Nedd yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi'r Principality ddydd Sadwrn.
roedd pob un â'i fys ar ei fotwm ac yn gwrando'n astud.
Alec Stewart fydd capten Lloegr yn yr Ail Brawf yn erbyn Indiar Gorllewin yn Lords Ddydd Iau gan fod Nasser Hussain wedi torrii fys.
Dawnsiodd Gemp ddawns bach y blodau ysgafndroed braf i fyny ac i lawr y palmant, yn troi fel ewig ac yn clecio'i fys a'i fawd.
Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth.
De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.
"Ac yn y fan yma mae anrheg Monsieur Leblanc i'r gelyn." Trawodd Henri ei fys ar y map mor wyllt fel y bu bron iddo dorri twll yn y papur cras.
Edrychais arno yn syn, gwenodd gan roi ei fys ar ei geg gan sibrwd, "Karachi%.