Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fythol

fythol

Ac fel y tystiolaetha'r rhifyn hwn o Aria, mae gan eisteddfodwyr o bob oed feddwl y byd hefyd o'r hen fythol ifanc Towyn.

Pe bawn i'n mynd fyddai dim rhaid i mi feddwl am fwyd, a doedd beth bynnag oedd yn gymorth yn y frwydr fythol yn erbyn ennill pwysau ddim yn ddrwg i gyd.

Bwriadasai lunio hanes y byd drwy'r oesoedd; ac er taw dim ond un gyfrol a gwblhaodd, ysgrifennodd ddigon i amlygu perthynas fythol ir dwy hen egwyddor, llywodraeth Rhagluniaeth ac awdurdod yr Ysgrythur.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.