Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fywoliaeth

fywoliaeth

Cyn diwedd y flwyddyn honno, dygwyd ei ddwy fywoliaeth oddi arno.

Datblygodd gwaith yn y chwarel yn fywoliaeth ar wahân i ffemmio i'r rhan fwyaf, er i garfan fechan ffemmio'r tyddynnod a gweithio yn y chwarel yn ystod y dydd.

Aeth ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor i astudio mathemateg ac er i'w ddiddordeb afieithus mewn ieithoedd barhau (gall ddarllen Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Rwseg) ym maes mathemateg y gwnaeth ei fywoliaeth.

Yr oedd y fywoliaeth yn wag oherwydd diswyddo David Evans.

Yn gyntaf, gan mai llywodraeth Brotestanaidd Edward VI a gyflwynodd y ddwy fywoliaeth iddo, awgryma hynny'n bendant iawn fod Davies yn Ddiwygiwr go selog erbyn hyn.

Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.

Wedi ei ordeinio aeth yn athro i ysgol Rhuthun am gyfnod ac yna rhoed iddo fywoliaeth Gresford.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

Ond mae'n rhaid cofio mai bardd proffesiynol oedd Lewis Glyn Cothi, yn ennill ei fywoliaeth trwy ganu cerddi am dâl.

Ond, fel y soniwyd eisoes, yn aml ni all y llawfeddyg cyffredinol dibrofiad a chymharol anfedrus fforddio danfon achos cymhleth at rywun mwy profiadol gan fod ei fywoliaeth yn dibynnu ar wneud yr operasiwn ei hun.