Eu ffurf a'u siâp yn ddinod a wal gerrig o flaen dau ohonynt yn gadarn batrymog.
Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.
Ac ar y tren o Fangor yr aeth a'i fag yn gadarn yn ei law.
Erbyn hyn, fodd bynnag, mae angen mwy nag ewyllys gadarn i ddatrys yr holl broblemau.
Ymwrthododd Cymdeithas yr Iaith â'r taeogrwydd hwn a gweithredodd yn gadarn gan orfodi'r awdurdodau i roi parch i'r Gymraeg.
Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.
'O na, na!' meddai'r doctor yn gadarn bendant.
'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.
Ychydig yn ddiweddarach fodd bynnag, ac yntau wedi cael diferyn go gadarn, perswadiwyd Twm gan eraill o'r criw i neidio i'r môr am ei fod yn nofiwr cryf.
c) angori ei syniadau yn gadarn o fewn meddylfryd Beiblaidd, gan danlinellu'r ffaith mai'r un Duw a greodd y byd ac a achubodd y byd.
Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.
Gwrthododd yn gadarn eu gwahoddiad i ymuno â hwy gan fod un o'i ddengair deddf yn cyhoeddi'n ddigyfaddawd mai'r pricia oedd yn teyrnasu ar nos Sadwrn.
Y ddau dŷ pen, Brynheulog a Brynhyfryd, os ydw i'n cofio'u henwau'n iawn, yn dai o frics coch ac yn gadarn iawn yr olwg.
Gan sefyll o hirbell gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, `Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Caethwasiaeth, y ddinas gadarn, oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.' [ac ymlaen, ac ymlaen, ac ymlaen]
Yn bedwerydd, mae'n hanfodol i'r iaith feddu ar sail gymunedol gadarn.
Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech.
Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.
Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.
Mae caead bin sbwriel wedi ei droi â'i ben i lawr a'i roi i sefyll yn gadarn ar friciau yn gwneud baddon adar da.
Eglurodd y cefndir i ffurfio'r cynllun lleol, gyda'r nod o osod sylfaen gadarn i wneud penderfyniadau teg a chyson ar geisiadau cynllunio.
Mae ymrwymiad y darlledwr i newyddion yn parhau i fod yr un mor gadarn ag erioed (ystafell newyddion BBC Cymru yw'r ail fwyaf y tu allan i Lundain) a gweddnewidiwyd y ddwy brif raglen newyddion teledu, Wales Today a Newyddion, gyda set stiwdio newydd, teitlau agoriadol a cherddoriaeth newydd sbon.
Mor gadarn yr ymddangosai'r holl lethrau a chlogwyni enfawr o'm cwmpas yn awr.
Dwi'n blês dros ben i ni gadw'r llinell amddiffyn yn gadarn drwy gydol y gêm.
Mae'n ddrwg gen i, syr, ond ...' Yr oedd y geiriau'n gwrtais ond yn gadarn.
Felly, fe ddywedodd yn gadarn, "Rydw i'n barod i anghofio am ffolineb neithiwr a chychwyn o'r newydd heddiw.
Erys argyhoeddiad sylfaenol Gwynfor Evans yn gadarn.
'Cartrefi ar gyfer angen lleol' yw carreg sylfaen Tai Eryri fel cymdeithas sy wedi ei leoli'n gadarn yn y Gymru Gymraeg.
Llawlyfr yn egluro sut y gellid sicrhau economi gadarn a sicr.
Sut lwyddodd pethau mor frau, mor ysgafn â brwyn i oresgyn y storm tra bo derwen mor gadarn wedi'i chwympo ganddi?
Dyw'r Bwrdd ddim wedi cymryd yr agwedd gadarn a addawodd Dafydd Elis Thomas, meddai.
Safodd llawer ohonynt yn gadarn dros eu Duw a buont yn gefn mawr i'r Genhadaeth a'r Fyddin yn ddiweddarach.
Cofiaf deimlo llaw gadarn ar fy ysgwydd un bore yn y labordy a'i lais yntau'n dweud: "You are a very industrious little boy aren't you?
Mae'r Swyddfa Gymreig wedi rhoi'r bel yn nwylo'r Cynghorwyr - boed iddynt ymateb yn ddoeth ac yn gadarn.
O ddarllen yr holl eiriau brwdfrydig a ysgrifenwyd am Catatonia dros y blynyddoedd, maen anodd gweld sut fedren nhw fod wedi methu, gyda'r cyfuniad o bop slic a gallu cerddorol gadarn.
Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.
Ac yn Harris cafwyd dyn penderfynol a fynnai gadw disgyblaeth gadarn arno.
Fel pe'n darllen ei feddwl, daeth y llafnes a chlwt i sychu'r bwrdd a gofyn iddo: "Anything else, luv?" Atebodd yntau'n gadarn: "Nothing'n tol, thenciw." Ond nid oedd symud arni.
Ond safodd ei fam yn gadarn yn erbyn, a hi a orfu.
Gan fod pob rhan o'r ymgynghori wedi dangos mesur helaeth o gymeradwyaeth i'r ddogfen ymgynghorol, yr oedd yn gwbl resymol, felly, dderbyn y ddogfen ymgynghorol fel sail gadarn i'r strategaeth ei hun, gan ychwanegu'r her o newid arferion defnyddio'r iaith, ac annog pobl i gymryd mantais o'r cyfleoedd a ddarperir at y tair prif her a nodwyd yn y ddogfen ymgynghorol.
Ond safodd y dderwen yn gadarn.
Roedd arwein yddiaeth Mr Aldwyn Humphreys yn sicr ac yn gadarn.
Merch fechan ydoedd, a rhyw wedd gadarn iddi, gyda'i hateb mor barod â'i chwarddiad.
Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll - ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.
Roedd y canlyniadau'n cadarnhau fod cefnogaeth gadarn ac eang i'r iaith drwy Gymru benbaladr, ynghyd ag awydd i weld cynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn gyffredinol.
Camgymeriad, er hynny, fyddai credu bod Unbennaeth Oleuedig bob tro yn niweidiol i ieithoedd lleiafrifol, a'r meddylfryd Herderaidd bob amser yn arf gadarn o'u plaid.
"'Rydw i wedi sefyll yn gadarn yn erbyn pob storm hyd yn hyn a tydw i ddim yn bwriadu ildio i'r gwynt hwn heno chwaith," meddai'r dderwen falch.
Ar wahân i leiafrif bychan (un o bob saith neu wyth) a barhaodd yn gadarn yn eu hymlyniad wrth y Ffydd, yr oedd y mwyafrif llethol yn 'faterolwyr rhonc', yn ôl Edward J.
Yr oedd ef yn dal yn gadarn at yr egwyddor honno ac fe geisiai ymhob ffordd bosibl berswadio'i Blaid i ddod yn ôl at ei pholisi gwreiddiol.
'Roedd gan y gof ddarn o gast wedi ei lunio ar lun yr olwyn ac yn ei ganol wacter lle yr âi hanner bwlyn yr olwyn i lawr iddo, yna 'roedd yr olwyn yn aros yn gadarn arno wrth osod y cant haearn am yr olwyn.
Mae'n hanfodol fod sail gymunedol gadarn i'r iaith.
Onid oedd yn dderbyniol ganddyn nhw, ni byddai'n rhaid iddo boeni mwy, ond os gwelai fod y Casino'n cael cefnogaeth gadarn, wel dyna'r amser iddo ef roi ei big i mewn.
Gobeithiai eto fod golwg teithiwr profiadol arno wrth gamu i mewn i'r cerbyd a chyhoeddi mewn llais annaturiol o gadarn: 'Victoria.'
Gosodwch gannwyll fechan yn gadarn ar darn o glai fel na fydd yn disgyn drosodd, a goleuwch hi'n ofalus gan wneud yn siwr fod y fflam gyferbyn a'r twll.
Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll _ ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.
Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.
Onid oedd Senedd Westminster yn gadarn wrth ei gefn?
Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.
Bu'r cwrs addysg hwn yn foddion i'w wreiddio'n gadarn mewn diwylliant eang a chyfoethog.
Cododd ar ei draed mewn protest a dweud bod ganddo'r traed cynhesa' o fewn y cread, ond rhoddodd Laura Elin law gadarn ar ei ysgwydd a'i wthio yn ôl i'w sedd.
Doedd yr amddiffyn ddim mor gadarn ag oedd o yn erbyn Seland Newydd.
Nid yfodd ddiferyn o ddiod gadarn wedi hynny, er cael cynnig peth droeon.
Lledr rhy gadarn, rhy galed i'r ardal hon, i'r gwres hwn, esgidiau y byddai rhywun yn eu gwisgo i gerdded dros ran arall o'r byd, y Tyrol er enghraifft.