Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadarnhaol

gadarnhaol

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, y gwir ddewis yw rhwng ymateb yn gadarnhaol i'r newidadau hyn gan ddatblygu'r ysgolion mewn dulliau cyffrous newydd i ateb gofynion yr oes newydd neu i ymateb yn negyddol a chaniatau i'r 'problemau' ein trechu ni.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

Rhaid dylanwadu'n gadarnhaol ar eu hagweddau a'u defnydd o'r iaith o'r cyfnod cynharaf, i sicrhau y byddant hwythau'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant ac yn ei defnyddio fel iaith y teulu.

Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ar nifer o bwyntiau gan gynnwys rhoi proffeil iaith i holl swyddi staff y Cynulliad, sicrhau bod modd i holl aelodau'r staff a'r aelodau etholedig ddysgu Cymraeg neu loywi eu Cymraeg a hynny yn y Cynulliad ei hun yn ystod oriau gwaith, a rhoi statws llorweddol i'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod angen strategaeth gadarnhaol arnom i ddiogelu ysgolion gwledig.

Ar yr ochr gadarnhaol, dywed yr adroddiad fod mwy o bobl ifanc yn hoffi cinio ysgol a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n yfed llaeth sydd a llai o fraster.

I sicrhau hynny, rhaid ceisio dylanwadu'n gadarnhaol ar agweddau ac arferion siaradwyr Cymraeg o ran defnyddio'r iaith.

Roedd agweddau disgyblion a fethodd brawf graddedig yr un ¯r gadarnhaol ag agweddau'r rhai a lwyddodd.

Hwyrfrydig odiaeth fu Wil i fentro at y fath berson hyd yn oed o ran hwyl; ond wedi dod yno, ni wnai ef adweithio nac yn negyddol nac yn gadarnhaol iddi.

Awn ati'n awr i wneud arolwg brys o'r sefyllfa yng Ngheredigion a Chaerfyrddin a cheisio hybu strategaeth gadarnhaol newydd ar gyfer ysgolion gwledig.

Disgwyliwn i'r Cynulliad gynrychioli a rhagfarnu'n gadarnhaol o blaid carfanau a ormesir yn ein cymunedau.

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb ar fyrder i'r bygythiad sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru a chreu strategaeth gadarnhaol newydd a fydd yn diogelu eu dyfodol.

Ond i Layard y mae hi'n elfen gadarnhaol ac angenrheidiol, fel y 'fam' sy'n mynnu cychwyn y broses neu'r ddefod o urddo'r mab a'i ddiwyllio i fod yn berson dynol cyflawn, yn ogystal â bod yn wryw ac yn anifail greddfol.

Mae cymaint o bosibiliadau cyffrous newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg, cyfathrebu a sgiliau newydd i gymunedau lleol - rydym wedi bod yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Addysg tan 16 oed i lunio strategaeth gadarnhaol newydd i ddatblygu ysgolion gwledig.

Fodd bynnag, ar yr ochr gadarnhaol, ceir posibilrwydd o chwyldro mewn arferion gwaith sy'n dileu'r angen am y rhan fwyaf o'r teithio y mae ei angen ar hyn o bryd i gyflawni gwaith yr Adran.

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod angen newid agwedd llwyr, a strategaeth gadarnhaol i ddatblygu ysgolion pentrefol fel asedau gwerthfawr. Dd.

Cyfranogi yn y Cwrs Asesir pob myfyriwr ar y cyfraniad a wnaeth i'r cwrs, gan gynnwys cyfrannu'n gadarnhaol i drafodaethau, parodrwydd i helpu trefnu achlysuron arbennig, arddangosfeydd o waith y myfyrwyr, etc.

Ond ar hyn o bryd, pwyntio'n gadarnhaol i fyny ac ymlaen y mae pob arwydd.

Rhaid sicrhau fod yr effeithiau'n gadarnhaol.

Mae perchenogion y siopau priodol wedi ymateb yn gadarnhaol, yn ymateb o fewn diwrnod i unrhyw gŵyn rhan amlaf.

Di-Gymraeg oedd Burgess yntau; ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'i ragflaenwyr, roedd ei agwedd at y Gymraeg yn bur gadarnhaol.

Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar ôl siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.

Yn anffodus ni fu'r prif noddwr arall, yr Awdurdod Datblygu mor barod i ymateb yn gadarnhaol a'r Cyngor ac o ganlyniad cafwyd oedi cyn medru gwneud yr astudiaeth.

Mae arnom angen strategaeth gadarnhaol ar gyfer addysg yn yr ardaloedd gwledig ac mae'r model Seisnig yn gwbl annerbyniol.

dyw hyn ddim yn golygu nad ydw i ddim yn gallu ymateb yn gadarnhaol i waith llenorion crefyddol.

Wrth ystyried cynyddu niferoedd, mae'n rhaid canolbwyntio ar grwpiau o fewn y boblogaeth lle mae dylanwadu'n gadarnhaol er mwyn cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn bosibl ac yn debygol o fod yn effeithiol.

Yn gadarnhaol y mae'n ffydd ddi-betrus ym muddugoliaeth gwirionedd.

Roedd yr unigolion hyn (dros 250 o enwau i gyd, wedi eu casglu dros gyfnod o ryw dair wythnos), yn cytuno â'r datganiad hwn: GALWN AR Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL I LUNIO STRATEGAETH GADARNHAOL I DDATBLYGU YSGOLON GWLEDIG.

Un elfen bwysig yw'r arweinydd carismatig Lucien Bouchard, roedd ei ddelwedd ef yn gadarnhaol dros ben tra bu delwedd Chretien yn un affwysol yn Que/ bec ers cryn amser.

Roedd y canlyniadau'n gadarnhaol a'r tu hwnt i'r disgwyl.

Ychwanegodd bod y trefniadau ariannol yn edrych yn gadarnhaol ond nad oedd sicrwydd o'r sefyllfa hyd ganol Rhagfyr, ond bod yn barod symud ymlaen gyda'r pryniant yn syth.