Mae o'n gaddo bihafio, nid arno fo roedd y bai tro dwytha yn nacia, ydach chi'n cofio?
PObol sy'n gaddo ar faes 'steddfod neu mewn bar.
A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.
'Wedi gaddo mynd adra,' meddai gan estyn ei law am y platiaid cinio a estynnai'r robot iddo.
Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.
'Rydw i wedi gaddo heddiw.'
Wneith o ddim tarfu arni hi, mae o'n gaddo bihafio, wneith o ddim malu'r lluniau tro 'ma na dymchwel y byrddau.
Rwan, Ifan, a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da, tyd i mewn am hoe bach ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion, cofia, neu allan ar dy ben fyddi di, wyt ti'n dallt?